Mae angen dull radical i fynd i'r afael â'r dirywiad brawychus mewn gwasanaethau ieuenctid - yn ôl y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 15/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae angen dull radical i fynd i'r afael â'r dirywiad brawychus yn y swm a'r amrywiaeth o wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, yn ôl pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.

Cred y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn wynebu her sylweddol i gyflawni ei ymrwymiad uchelgeisiol o sicrhau darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, cyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae'r gostyngiadau sylweddol mewn cyllid dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddifrifol ar wasanaethau ieuenctid. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae cyfanswm y gwariant gan awdurdodau lleol ar wasanaethau ieuenctid, gan gynnwys y cyllid drwy'r Grant Cynnal Refeniw, wedi gostwng bron i 25 y cant dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gwasanaethau ieuenctid a gynhelir gan awdurdodau lleol yn lleihau o un flwyddyn i'r llall ac mae nifer y staff gwaith ieuenctid wedi dirywio'n sylweddol, gydag awdurdodau lleol yn nodi u bod wedi colli 148 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn ar draws y sector statudol yn 2015-16. Mae hyn yn golygu gostyngiad o bron i 20 y cant yn y capasiti staffio mewn dim ond blwyddyn.

Nid yw'r rhagolwg ar gyfer y sector gwirfoddol yn fwy optimistaidd, gyda Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn adrodd nad yw 30 y cant o'i gyrff cysylltiedig yn disgwyl gallu parhau i fodoli y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Yn ystod yr ymchwiliad, nododd y rhanddeiliaid o'r sectorau statudol a gwirfoddol y materion allweddol a ganlyn -

  • Mae diffyg arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru;
  • Nid yw'r sector a'r bobl ifanc yn cyfrannu digon at y broses o ddatblygu polisïau; ac
  • Mae angen sicrhau cydweithredu gwell rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol i wneud y gorau o adnoddau prin.

Cred y Pwyllgor fod angen cymryd camau radical ar frys i fynd i'r afael â'r materion hyn. Am y rheswm hwnnw, cred y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru newid i fodel cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid, yn cwmpasu'r sectorau ieuenctid statudol a gwirfoddol. Byddai model cenedlaethol yn galluogi cydweithredu gwell, yn lleihau dyblygu ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol, yn codi statws a phroffil gwasanaethau ieuenctid, ac yn annog datblygiad y gweithlu.

Dywedodd Lynne Neagle AC. Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: "Mae sicrhau bod yr holl bobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid yn hanfodol i'w cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.

"Mae ein hymchwiliad yn dangos tuedd ar i lawr brawychus yn nifer ac amrywiaeth y gwasanaethau ledled y wlad.

"Rydym yn deall nad yw toriadau mewn cyllid yn gyfyngedig i'r sector gwaith ieuenctid, ond mae dadl bod gwario arian ar ddarparu cymorth cyffredinol i bobl ifanc yn gynnar yn gallu helpu i atal y posibilrwydd o effeithiau dilynol yn ddiweddarach mewn bywyd.

"Credwn fod Llywodraeth Cymru yn wynebu her sylweddol i gyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, cyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

"Er mwyn ateb yr her hon, mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno model cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, i ddwyn ynghyd y sectorau statudol a gwirfoddol. Mae'r staff sy'n darparu gwasanaethau ar lawr gwlad yn frwdfrydig ac yn greadigol. Maent hefyd yn realistig am yr amgylchiadau ariannol y mae gwasanaethau ieuenctid yn eu hwynebu, ond maent yn awyddus i wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Dylai model cenedlaethol sicrhau y manteisir i'r eithaf ar yr arian yn y system i ariannu'r gwasanaethau hyn ac y gall pobl ifanc yng Nghymru barhau i gael mynediad at y gwasanaethau pwysig hyn.

"Model cenedlaethol yw'r dewis gorau os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cyflwyno gwasanaeth sy'n hygyrch i bob person ifanc yng Nghymru."

Mae deg argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor, gan gynnwys:

  • Dylai'r Gweinidog adolygu'r Strategaeth Genedlaethol ac adnewyddu'r canllawiau statudol mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid a phobl ifanc. Rhaid i gynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu, gan gynnwys amserlenni, gael ei ddatblygu ochr yn ochr â strategaeth newydd.
  • Dylai fod llwybr clir ac ystyrlon i bobl ifanc fod yn bartneriaid cyfartal wrth ddatblygu gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru. Dylai hyn gael ei ddatblygu gan y Gweinidog, rhanddeiliaid a phobl ifanc.

Darllenwch yr adroddiad yma