Cerib - stock.adobe.com

Cerib - stock.adobe.com

Mae angen i Dŵr Cymru anelu’n uwch o ran mynd i'r afael â llygredd

Cyhoeddwyd 08/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/02/2024   |   Amser darllen munud

Mae Pwyllgor Amgylchedd y Senedd wedi galw heddiw ar Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflymu mesurau i fynd i’r afael â llygredd yn nyfroedd Cymru.

Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai Dŵr Cymru osod targed mwy ymestynnol ar gyfer lleihau achosion o lygredd erbyn 2030, gyda tharged uchelgeisiol o beidio â chael unrhyw achosion o lygredd cyn gynted â phosibl.

At hynny, mae’r adroddiad heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod ei hamserlen ar gyfer gwahardd weips gwlyb sy'n cynnwys plastig cyn gynted â phosibl – clywodd y Pwyllgor mai cadachau gwlyb sy’n creu’r rhwystrau pennaf.

"Treddio’n bell o dan wyneb y dŵr"

Yn ôl Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith:

“Mae adroddiadau perfformiad diweddar yn dangos nad yw Dŵr Cymru’n treiddio’n bell o dan wyneb y dŵr pan ddaw’n fater o gyflawni ar ran ei gwsmeriaid a’r amgylchedd.

“Llygredd, gollyngiadau, ansawdd dŵr yfed ac ymyriadau cyflenwad – dim ond rhai o'r problemau y mae Dŵr Cymru yn ei chael hi'n anodd dygymod â nhw. Ar ben y gollyngiadau carthion cyson sy'n rhy gyfarwydd i bob un ohonom, does ond un casgliad: mae angen i Dŵr Cymru anelu’n uwch.

“Mae tywydd eithafol a newid hinsawdd yn creu llanast ar y system dŵr a charthffosiaeth, sef system sy’n heneiddio. Mae disgwyl y bydd effeithiau newid hinsawdd yn gwaethygu dros y blynyddoedd i ddod, ac mae angen i Dŵr Cymru ddod o hyd i atebion cynaliadwy a hirdymor, sy'n fforddiadwy i gwsmeriaid.

“Mae’n dasg heriol, ond yn un sy’n rhaid i Dŵr Cymru ei chyflawni.

“Mae’n rhaid i Dŵr Cymru weithio’n galetach ac yn gyflymach i adfer ei safle fel arweinydd o fewn y diwydiant o ran perfformiad amgylcheddol. Mae eisoes wedi tystio i’w allu i gyflawni hynny. I bobl Cymru, gwaetha’r modd, nid yw eu perfformiad presennol yn ddigon da.”

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn galw am y canlynol:

  • Dŵr Cymru i egluro sut mae’n cynllunio ar gyfer pwysau hinsawdd yn y dyfodol, er mwyn lliniaru digwyddiadau llygredd difrifol.
  • Dŵr Cymru i ymrwymo i osod targed mwy ymestynnol ar gyfer lleihau achosion o lygredd erbyn 2030 ac ymrwymo i uchelgais o beidio â chael unrhyw achosion o lygredd, o fewn yr amser byrraf posibl.
  • Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig cyn gynted â phosibl.
  • Ofwat i egluro a yw ei adferiad cyflog ar sail perfformiad yn berthnasol i Dŵr Cymru – a sut felly – o ystyried ei statws ‘nid-er-elw’.

Mae adroddiad heddiw yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer Dŵr Cymru a'i reoleiddwyr, gyda'r nod o wella perfformiad y cwmni a sicrhau gwell atebolrwydd.

Mae’r Pwyllgor yn disgwyl i bob plaid ymateb i’r argymhellion.

 


Mwy am y stori hon

Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru. Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Perfformiad Dŵr Cymru Welsh Water