Mae angen i fwy o bobl wybod am ganser yr ofari, y 'lladdwr tawel', medd un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 09/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

 

Mae angen ymgyrch hirdymor i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am beryglon canser yr ofari, medd un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb a gyflwynwyd gan Margaret Hutcheson, nyrs gofal lliniarol sydd wedi ymddeol, a oedd yn galw ar i:

"... Lywodraeth Cymru gefnogi sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari (prawf gwaed CA125)."

Casglodd y ddeiseb 104 o lofnodion.

Cafodd Margaret ei hysbrydoli i gychwyn y ddeiseb ar ôl i nifer o'i ffrindiau gael diagnosis o ganser yr ofari. Yn ei chyflwyniad i'r Pwyllgor Deisebau, disgrifiodd y clefyd fel 'lladdwr tawel' oherwydd nad yw'n aml yn cael ei ganfod nes ei bod yn rhy hwyr.

Mae ffigurau'n dangos bod 365 o fenywod wedi cael diagnosis yng Nghymru yn 2014 - bu farw 238 o'r clefyd.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai'r prawf gwaed CA125 ganfod canser yr ofari, ond nad oedd yn ddigon cywir i gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen sgrinio oherwydd y gallai canlyniadau positif hefyd fod o ganlyniad i gyflyrau eraill.

Fel y dywedodd un tyst a gyfrannodd i'r ymchwiliad:

"Gall profion sgrinio gael ystod o ganlyniadau anfwriadol, o orbryder i lawdriniaeth ddiangen mewn achosion eithafol. Credwn nad yw profi lefelau CA125 yn ddigon penodol nac yn ddigon cywir ar hyn o bryd i fentro ei ddefnyddio fel offeryn sgrinio cenedlaethol eto. Byddai'n well gwario'r arian ar ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r symptomau ar hyn o bryd."

Ystyriodd y Pwyllgor opsiynau sgrinio eraill gan gynnwys archwiliadau uwchsain trawsweiniol.

Ymchwiliodd yr Aelodau hefyd i ganlyniadau treial a gyhoeddwyd yn 2015 a oedd yn dangos y gallai'r naill ddull a'r llall helpu i leihau nifer y menywod sy'n marw o ganser yr ofari o un rhan o bump. Fodd bynnag, roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys cryn dipyn o lwfans ar gyfer camgymeriad a allai, o bosibl, ystumio'r canlyniadau o unrhyw le rhwng 0 y cant a 40 y cant. Clywodd y Pwyllgor fod y treial wedi cael ei ymestyn mewn ymgais i ddod i gasgliadau mwy pendant.

Er i'r Pwyllgor ddod i'r casgliad na allai argymell cyflwyno sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari, gwnaeth dri argymhelliad:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar y posibilrwydd o raglen sgrinio genedlaethol;
  • Dylid gwneud rhagor o waith gyda meddygon teulu i sicrhau bod menywod sydd â symptomau canser yr ofari yn cael eu hatgyfeirio am brofion priodol; a
  • Dylid gwneud rhagor i wella ymwybyddiaeth o ganser yr ofari gan gynnwys nodi symptomau cyffredin a rhoi cyngor ynghylch pryd y dylai pobl ofyn am gymorth meddygol.


"Roedd y dystiolaeth a gawsom gan y deisebydd yn bwerus iawn ac ar ran y Pwyllgor, hoffwn ddiolch iddi am gyflwyno'r ddeiseb," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

"Fe wnaethom gymryd tystiolaeth fanwl ar effeithiolrwydd y prawf gwaed CA125, ac ar ddulliau canfod posibl eraill, ond yn syml, nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i brofi'n bendant y gellid arbed bywydau drwy gyflwyno rhaglen sgrinio flynyddol.

"Yr hyn yr ydym wedi ei argymell yw y dylid cadw llygad ar y posibilrwydd o raglen o'r fath.

"Rydym am sicrhau bod meddygon teulu yn atgyfeirio menywod yn gyflym am y profion priodol pan fyddant yn arddangos symptomau canser yr ofari.

"Rydym hefyd yn credu bod angen gwneud rhagor yn gyffredinol i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd erchyll hwn."

Dywedodd Margaret Hutcheson, y deisebydd:

"Dangosodd ffigurau diweddar gan Cancer Research UK fod disgwyl i gyfraddau canser godi chwe gwaith yn gyflymach ymhlith menywod nag ymhlith dynion dros yr ugain mlynedd nesaf.

"Mae'n bosibl mai achosion o ganser yr ofari, ceg y groth a chanser y geg a fydd yn cynyddu fwyaf, felly mae'n hanfodol canfod y lladdwr tawel hwn yn gynnar.

"Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu cefnogaeth, ac am gymryd fy neiseb yn ddigon o ddifrif i ymchwilio i'r pwyntiau a godwyd ynddi.

"Fy ngobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn canfyddiadau'r Pwyllgor ac yn parhau i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari yn yr hirdymor, oherwydd mae'n argoeli y bydd y broblem yn fwy difrifol yn y dyfodol."

 

Darllenwch adroddiad y pwyllgor yma (PDF, 625KB)

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Deisebau i'w chael yma.