Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos rhagor o arweiniad wrth fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd
19 Rhagfyr 2011
Mae diffyg arweiniad a rhannu gwybodaeth yn llesteirio ymdrechion i fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd, yn ôl adroddiad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth uwch i ddileu’r broblem, a gwneud rhagor i annog asiantaethau ac awdurdodau perthnasol i gydweithio.
Yn yr ymchwiliad canfuwyd sawl enghraifft o arfer da o ran addysgu ledled Cymru, ond clywyd tystiolaeth nad oedd y wybodaeth honno’n cael ei rhannu.
Mae prif ganfyddiadau’r pwyllgor yn adlewyrchu’r rheini a nodir yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘O’r Golwg yng Ngolwg Pawb’, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Tynnodd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sylw at hyd a lled y broblem o aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru.”
“Yn ein hadroddiad rydym wedi nodi’r hyn y gall awdurdodau lleol, yr heddlu, grwpiau cymorth, elusennau ac asiantaethau cysylltiedig eraill ei wneud i gyfuno’u hymdrechion, gan gael eu harwain gan fframwaith strategol a gaiff ei lunio gan Lywodraeth Cymru.
“Mae aflonyddu ar sail anabledd yn annerbyniol yn y gymdeithas sydd ohoni, ac rydym yn credu y gall cydweithio’n agosach helpu i addysgu pobl a chael gwared ar y broblem yn gyfan gwbl.”
Mae deg argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor; caiff yr adroddiad ei anfon yn awr at Lywodraeth Cymru, a fydd yn ei ystyried.