Mae angen i Lywodraeth Cymru godi safonau o ran twristiaeth, lletygarwch a manwerthu

Cyhoeddwyd 06/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/07/2022   |   Amser darllen munud

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod gan un o bwyllgorau’r Senedd heddiw fod angen iddi “godi’r bar” o ran safonau yn y sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu.

Heddiw, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad sy’n nodi sut y mae’n rhaid i’r Llywodraeth a’r diwydiant weithredu i sicrhau dyfodol y sectorau ar ôl cynnwrf y pandemig Covid-19.

Dywed yr adroddiad bod angen i Lywodraeth Cymru wneud rhagor o fewn ei gallu i sicrhau amodau gwaith teg yn y tri sector, yn wyneb pwysau cynyddol o ran costau byw.

Bydd amodau gwaith gwael, ansicrwydd o ran swyddi a chyflogau isel yn ei gwneud hi'n anoddach i gywiro'r prinder enfawr o bobl yn y sectorau hyn, er bod gweithwyr hefyd yn nodi lefel uchel o foddhad yn eu gwaith.

Dywed y Pwyllgor fod yn rhaid codi statws y sectorau hyn, sydd eisoes yn cyflogi cyfran uchel o weithlu Cymru.

Ym maes lletygarwch a thwristiaeth amcangyfrifir bod rhwng 70 a 75 y cant o weithwyr yn ennill llai na'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Dywedodd gweithwyr a roddodd dystiolaeth yn ddienw i’r Pwyllgor nad oeddent yn teimlo y gallent leisio eu barn i herio eu cyflogwyr nac i newid pethau yn y diwydiant, ac o ganlyniad roedd llawer heb ddim dewis ond gadael eu swyddi.

Dyfodol llwyddiannus a llewyrchus

Yn yr adroddiad, mae’r Pwyllgor yn amlinellu enghreifftiau o weithwyr sy’n teimlo’n anniogel yn y gwaith yn ystod y pandemig. Yn ôl y Pwyllgor, fodd bynnag, mae adferiad o’r pandemig yn gyfle i’r llywodraeth a’r diwydiant gydweithio i godi safonau a sicrhau dyfodol llwyddiannus a llewyrchus.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ba gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu i fusnesau sydd wedi goroesi yn sgîl Covid-19, gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf, hyblygrwydd o ran ad-daliadau benthyciadau, a threfniadau ardrethi busnes.

Hefyd dylai’r Llywodraeth ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â rhwystrau i waith teg yn y sector lletygarwch, y sector twristiaeth a’r sector manwerthu.

Yn benodol:

  • diogelu a gwella cyflog ac amodau gweithwyr yng ngoleuni’r pwysau cynyddol o ran costau byw
  • rhoi rhagor o gyfle i’r gweithwyr leisio barn
  • rhagor o gefnogaeth o ran buddsoddiad cyfalaf, hyblygrwydd o ran ad-daliadau benthyciadau a threfniadau ardrethi busnes

 


 

 

Paul Davies AS
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
 

 

“Rydym yn falch o’n heconomi ymwelwyr yng Nghymru, ac er ein bod wedi gweld twf ar ôl Covid-19, mae’r adferiad yn fregus. Heddiw rydym yn tynnu sylw at sut y gallwn sicrhau adferiad cadarn yn y diwydiannau hanfodol hyn.

Mae'n amlwg bod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar y sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth. O ganlyniad, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi adferiad y diwydiannau hyn, ac yn eu helpu i ffynnu unwaith eto.


Mae’r dystiolaeth a gawsom yn dangos cymaint o falchder y mae gweithwyr yn ei deimlo yn eu gwaith. Gyda phwysau costau byw yn cynyddu, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a’r sectorau eu hunain yn gweithio’n ddiflino i godi safonau ar gyfer eu gweithwyr.”

 



Mae’r adroddiad yn gwneud 18 o argymhellion ar sut y dylai Llywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr ag arweinwyr y sector, yr undebau a darparwyr hyfforddiant i ddiogelu dyfodol y sectorau.

Mae’r argymhellion yn cynnwys yr ardoll dwristiaeth arfaethedig, hyblygrwydd o ran ad-daliadau benthyciadau Covid-19 a sut y gallai’r rhaglen brentisiaeth fod o fudd i’r diwydiannau.

 

Mwy am y stori hon

Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Materion lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth