Mae angen cryn newid os yw'r rhaglen flaenllaw Dechrau'n Deg ar gyfer y blynyddoedd cynnar am lwyddo i gyrraedd y rheiny sydd â'r angen mwyaf am gymorth, yn ôl un o bwyllgorau trawsbleidiol y Cynulliad.
Canfu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad fod angen rhagor o hyblygrwydd er mwyn i gyllid allu cael ei ddefnyddio i helpu plant sy'n byw y tu allan i'r ardaloedd Dechrau'n Deg presennol.
Mae'r rhaglen Dechau'n Deg yn darparu gwasanaethau i blant o dan bedair oed yn rhai o ardaloedd cod post mwyaf difreintiedig Cymru. Cyfeirir at y rhaglen fel un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â thlodi plant, ac mae iddi bedair prif elfen:
- gofal plant rhan-amser am ddim i blant dwy i dair oed.
- gwasanaeth ymweliadau iechyd gwell.
- mynediad ar gymorth i rieni.
- a mynediad at gymorth datblygu iaith.
Fodd bynnag, gyda bron i ddau o bob tri pherson ag anawsterau incwm sy'n byw y tu allan i'r ardaloedd daearyddol a ddiffinnir yn ddifreintiedig, mae'r Pwyllgor wedi clywed bod nifer sylweddol o blant yn byw mewn tlodi a fyddai'n debygol o gael eu hallgau rhag cymorth Dechrau'n Deg.
Er bod y Pwyllgor yn croesawu'r newidiadau diweddar a fydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i helpu plant y tu allan i ardaloedd cod post Dechrau'n Deg, mae angen rhagor o hyblygrwydd i sicrhau bod y sawl sydd â'r angen mwyaf yn cael eu cefnogi.
Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed tystiolaeth ar ffurf profiad defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau rheng flaen ynghylch manteision Dechrau'n Deg.
"Rydym yn credu bod angen rhagor o hyblygrwydd i alluogi'r rhaglen i gyrraedd y sawl sydd â'r mwyaf o angen"
- Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Fodd bynnag, yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o dros £600 miliwn i Dechrau'n Deg ers ei sefydlu yn 2007, mae'r Pwyllgor yn pryderu mai prin yw'r dystiolaeth gadarn ar hyn o bryd sy'n dangos bod plant a rhieni a gefnogir gan y rhaglen wedi profi canlyniadau gwell.
Dywedodd Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Rydym yn croesawu gwaith caled y rheiny sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg ledled Cymru. Serch hynny, gyda'r rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, rydym yn credu bod angen rhagor o hyblygrwydd i alluogi'r rhaglen i gyrraedd y sawl sydd â'r mwyaf o angen.
“Rydym hefyd o'r farn bod angen gwneud rhagor o waith i ddangos buddion y rhaglen, ac rydym yn croesawu sicrwydd Llywodraeth Cymru ei bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o ddangos gwelliannau uniongyrchol y mae Dechrau'n Deg yn eu gwneud i fywydau plant a theuluoedd yng Nghymru. Byddwn yn monitro'r gwaith hwn yn agos, ac rydym yn credu ei fod yn arbennig o bwysig o ystyried y swm sylweddol o arian a fuddsoddir yn y rhaglen hon yn flynyddol, gyda bron i £80 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer y rhaglen yn y flwyddyn ariannol hon.”
Darllen yr adroddiad llawn:
Dechrau’n Deg:Allgymorth (PDF, 2 MB)