Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud nifer o argymhellion y cred fod eu hangen i ddileu'r rhwystrau a wynebir gan bobl ifanc wrth iddynt geisio ymuno â'r gweithlu.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 17.6% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru yn ddi-waith ac mae'r Pwyllgor wedi ystyried cynlluniau amrywiol sydd ar gael yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i helpu pobl ifanc i gael gwaith.
Yn ogystal â dadansoddi tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan amrywiaeth o dystion, gan gynnwys awdurdodau lleol, elusennau, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, aeth y Pwyllgor hefyd i ymweld ag Info-Nation yn Abertawe i siarad â phobl ifanc am y materion sy'n effeithio arnynt.
Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes:
"Mae nifer o ffactorau yn wynebu pobl ifanc wrth iddyn nhw geisio ymuno â'r gweithlu, fel diffyg hyder, diffyg cymwysterau a diffyg profiad.
"Un o'r prif bethau a ddaeth i'r amlwg oedd bod y glorian yn dal i bwyso'n drwm ar ochr astudiaethau academaidd. Mae hynny'n anghydnaws â'r cyfleoedd gwaith sydd ar gael i bobl ifanc ac nid yw'n gwneud fawr i'w paratoi ar gyfer bywyd gwaith.
"Er bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio hyrwyddo dysgu seiliedig ar waith a pharch cydradd ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, dim ond 0.3% o'r rhai a adawodd yr ysgol yng Nghaerdydd y llynedd ddechreuodd brentisiaeth. Cymharer hyn â'r 87% sy'n mynd ymlaen i addysg bellach.
"Rydyn ni wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl i'w bywydau gwaith."
Adroddiad gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith (PDF, 778KB)