Mae angen "mwy o gysondeb" ac eglurder ynghylch cyflogau uwch reolwyr

Cyhoeddwyd 06/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau mwy o eglurder a sail resymegol gliriach ynghylch lefelau cyflogau uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus, yn ôl grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad.
 
Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i gyflogau uwch reolwyr ac yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru lunio a dosbarthu diffiniad clir o’r hyn a olygir gan swydd uwch yn y sector cyhoeddus.
 
Dywedodd Darren Millar AC, cadeirydd y pwyllgor, "Roedd yn anodd weithiau gwneud cymariaethau rhwng trefniadau cyflog sefydliadau tebyg ac roedd anghysondebau ar draws y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd.
 
"Roeddem yn pryderu am y canfyddiadau hyn, gan ei bod yn hanfodol, yn ein barn ni, bod y wybodaeth am lefelau cyflogau uwch-swyddogion yn y sector cyhoeddus yn glir ac yn hygyrch i'r cyhoedd. Bydd hynny'n ei gwneud yn bosibl cynnal gwaith craffu effeithiol a chael trafodaeth ddeallus a hyddysg am gyflogau uwch reolwyr.
"Er mwyn mynd i'r afael â'n pryderon, rydym yn cynnig cyfres o argymhellion sydd â'r nod o ddileu'r anghysondebau o ran adrodd a sicrhau atebolrwydd i drethdalwyr.
 
"Nid yw ein hargymhellion yn gosod unrhyw faich mawr ychwanegol ar sefydliadau, yn hytrach maent yn anelu at gysoni'r drefn o adrodd ar gyflogau uwch reolwyr, sicrhau bod gwybodaeth yn fwy hygyrch i'r cyhoedd a sicrhau mwy o dryloywder o ran y penderfyniadau a wneir gan sefydliadau ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 23 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod diffiniad clir o’r hyn a olygir gan swydd uwch yn y sector cyhoeddus yn cael ei lunio a’i ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru. Dylai hyn ystyried lefel y taliadau cydnabyddiaeth, graddfa’r sefydliad dan sylw a lefel cyfrifoldeb y deiliad swydd.
  • bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei gwaith yn ad-drefnu llywodraeth leol i ystyried yr opsiynau ar gyfer cyflwyno mwy o gysondeb o ran cyflogau uwch reolwyr mewn Llywodraeth Leol. Dylid cyhoeddi sail resymegol glir i sicrhau bod eglurder o ran sut y dylid pennu cyflogau mewn unrhyw strwythur newydd a gyflwynir. O ystyried y penderfyniadau diweddar gan rai cynghorau i ystyried uno gwirfoddol, dylid rhoi hyn ar waith ar unwaith. Hefyd, dylid cynnwys y broses o uno gwirfoddol wrth ystyried unrhyw strwythurau cyflog.
  • bod Llywodraeth Cymru yn llunio a chyhoeddi geirfa mewn perthynas â chyflogau uwch reolwyr, sy’n nodi’r termau mwyaf priodol i’w defnyddio mewn datgeliadau cyflog, ynghyd ag esboniadau ar gyfer termau a ddefnyddir yn llai aml. Mae’r Pwyllgor yn argymell hefyd fod naratif i gyfrifon yn cynnwys nodiadau digonol sy’n hawdd eu dehongli ac sy’n darparu esboniad clir o unrhyw sefyllfaoedd anarferol.
  • bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod eitemau sy’n ymwneud â materion cyflog yn cael eu rhestru’n glir ac ar wahân ar bob agenda.
    bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfansoddiad a threfn recriwtio Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, wrth i swyddi ddod ar gael, i sicrhau ei fod yn cynrychioli cymdeithas sifil ehangach.