Mae angen newid sylweddol er mwyn i glystyrau gofal sylfaenol leddfu pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai yng Nghymru

Cyhoeddwyd 13/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2017

​Mae angen newid sylweddol yn natblygiad a chyfeiriad clystyrau gofal sylfaenol yng Nghymru er mwyn iddynt leddfu pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.

Cefnogodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddull Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio a darparu gofal sylfaenol ar lefel leol. Clywodd hefyd am rai gweithwyr proffesiynol ymroddedig iawn sy'n arwain ac yn darparu'r model newydd hwn ar lawr gwlad. Eto, canfu'r Pwyllgor nad oes llawer o dystiolaeth yn cael ei chasglu i brofi bod unrhyw fanteision gwirioneddol i waith clwstwr hyd yma, yn enwedig i gleifion unigol.

Adolygodd y Pwyllgor 64 o glystyrau Cymru sy'n caniatáu i feddygfeydd teulu gyfuno a darparu gwasanaethau eraill gan gynnwys ffisiotherapi, fferyllfa, cynghori a nyrsio arbenigol.

Canfu'r Aelodau fod clystyrau ar wahanol gyfnodau o aeddfedrwydd, nad yw ynddi'i hun yn broblem os ydynt yn datblygu er mwyn diwallu anghenion y gymuned leol orau.

Ond mae'r Pwyllgor o'r farn bod angen dull newydd a chyfeiriad cliriach gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd am weld ymgyrch genedlaethol yn egluro i'r cyhoedd yr hyn yw manteision gwaith clwstwr gofal sylfaenol a'r ffordd orau o ddefnyddio'r ystod o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ynddynt.

"Un rheswm allweddol y tu ôl i greu clystyrau gofal sylfaenol yw i leddfu pwysau ar feddygon teulu ac ar ein hysbytai trwy gadw gwasanaethau iechyd hanfodol yn fwy lleol  yng nghymunedau pobl," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Ond ychydig yn unig o dystiolaeth sydd i ddangos bod hyn yn digwydd ar draws 64 o glystyrau Cymru.

"Rydym o'r farn bod angen newid sylweddol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfeiriad cliriach ar gyfer byrddau iechyd a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu yn yr ardaloedd cywir yn y ffordd gywir."

 

Argymhellion y pwyllgor

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi model newydd ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol sy'n adfer gweledigaeth wedi'i diffinio'n glir ar eu cyfer o ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a gweithredu ymgyrch genedlaethol sydd wedi'i hanelu at gleifion sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r model clwstwr gofal sylfaenol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid datblygu clystyrau'n cael ei ddyrannu i glystyrau unigol ar sail tair blynedd yn hytrach nag un flwyddyn; a
  •  Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod mecanwaith llawer mwy eglur a chadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Er gwaethaf yr heriau clir, rhaid rhoi sylw i sut y gall mecanweithiau gwerthuso ddechrau mesur effaith gwaith clwstwr ar ganlyniadau cleifion.

 


Darllen yr adroddiad llawn:

Ymchwiliad i Ofal Sylfaenol:Clystyrau  (PDF, 1 MB)