Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud nifer o argymhellion y mae'n teimlo fydd yn cryfhau rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon).
Rôl yr Ombwdsmon yw sicrhau bod unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n credu eu bod wedi cael cam drwy gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gorff cyhoeddus, yn gallu gwneud cwyn gyda'r sicrwydd y bydd eu cwyn yn cael ei thrin yn deg ac yn annibynnol gan yr Ombwdsmon.
Trafododd y Pwyllgor bum maes y creda'r Ombwdsmon fyddai'n gwella'r Ddeddf bresennol sy'n llywodraethu rôl yr Ombwdsmon, gan gynnwys:
-pwerau ymchwilio ar ei liwt ei hun;
-cwynion llafar;
-ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus;
-ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat (mewn rhai amgylchiadau); a
-cysylltiadau â'r llysoedd.
Cred y Pwyllgor y dylai'r pedwar cyntaf gael eu hymestyn i'r Ombwdsmon drwy newid deddfwriaethol i sicrhau bod ei rôl yn canolbwyntio ar y dinesydd a bod y ddeddfwriaeth yn addas i'r dyfodol.
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:
"Mae'r Pwyllgor yn cytuno bod angen gwneud newidiadau i gryfhau rôl yr Ombwdsmon a sicrhau bod yr unigolion mwyaf agored i niwed, sydd yn aml yn dibynnu fwyaf ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn teimlo'n hyderus wrth gwyno wrth yr Ombwdsmon a bod ganddynt yr hawl i ymateb teg i'w cwyn.
"Drwy gydol yr ymchwiliad hwn, clywsom lawer iawn o dystiolaeth, ac mae llawer ohoni wedi dangos pa mor bwysig yw rôl yr Ombwdsmon.
"Heb os, byddai pob un ohonom yn hoffi gweld dyfodol yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, ond pe na bai'r gwasanaeth hwnnw'n bodloni disgwyliadau'r unigolyn, mae angen iddynt gael yr hyder yn yr Ombwdsmon i allu ymchwilio.
"Pe bai ein hargymhellion yn cael eu gweithredu, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwella rôl yr Ombwdsmon yng Nghymru a chodi hyder y cyhoedd."
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PDF, 876KB)