Mae angen rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch adrannau achosion brys yng Nghymru – meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 25/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae angen rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch adrannau achosion brys yng Nghymru – meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

25 Ebrill 2014

Dylai Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd lleol rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch adrannau achosion brys yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mynegodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bryderon hefyd am anghysondebau yn y ffordd y cesglir data sy’n ymwneud â pherfformiad gan y GIG, ac argymhellodd y dylid sicrhau bod y wybodaeth a gesglir ynghylch darparu gwasanaethau a phrofiadau cleifion yn glir.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad yn dilyn adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a ganfu fod gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn gwaethygu mewn rhai ardaloedd – yn enwedig o ran amseroedd aros cleifion.

Mae’r Pwyllgor yn nodi iddo glywed am rai gwelliannau ers cyhoeddi’r adroddiad hwnnw.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, "Mae’r pwysau sy’n wynebu’r broses o gyflenwi gwasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru yn gymhleth.

"Er bod y rhai sy’n gweithio o fewn GIG Cymru wedi gwneud eu gorau i sbarduno gwelliannau, ni welwyd eto’r newid ymagwedd llwyr o ran perfformiad sydd ei angen ar bobl Cymru.

"Casgliad y Pwyllgor yw bod angen atebion radical er mwyn mynd i’r afael â’r heriau y mae ein gwasanaethau iechyd yn eu hwynebu. Rydym hefyd am weld terfyn i’r ansicrwydd ynghylch yr hyn a ddarperir o ran adrannau achosion iechyd brys – yn enwedig o ystyried yr her a wynebir gan ein hysbytai o ran recriwtio."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod angen rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau adrannau achosion brys ledled Cymru, ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i ddod â’r ansicrwydd hwn i ben er mwyn cyflawni modelau staffio meddygol diogel, sy’n gynaliadwy’n glinigol, mewn adrannau achosion brys, a’i bod yn hybu recriwtio a chadw staff angenrheidiol.

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o waith i hyrwyddo’r dewisiadau sydd ar gael i gleifion, a’r modd y gallai’r gwasanaethau hynny gael eu darparu. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y gellir cael gofal sylfaenol gan weithiwr iechyd proffesiynol heblaw meddyg teulu, ac y gallai hynny ddigwydd dros y ffôn; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu cyfres ehangach o fesurau perfformiad ar gyfer gofal heb ei drefnu er mwyn mesur a chofnodi ansawdd gofal a phrofiadau cleifion mewn ffordd sy’n golygu y gellir gwneud cymariaethau yn y DU a thu hwnt.

Dylai aelodau o’r cyfryngau sydd am drefnu cyfweliad â Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor, gysylltu â thîm cyswllt â’r cyfryngau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 029 2089 8215.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i ofal heb ei drefnu ar gael yma.