Mae angen sicrwydd ar Gymru o ran yr hyn a ddaw yn lle cyllid yr UE ar ôl i’r DU adael yr UE, ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 22/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/06/2017

​Mae angen sicrwydd ar Gymru o ran beth fydd yn lle cronfeydd strwythurol yr UE ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Cymru’n cael bron £2 biliwn o gyllid polisi rhanbarthol gyda’r bwriad o wella rhai o ardaloedd tlotaf y wlad, gan gynnwys gorllewin Cymru a’r cymoedd.

Yn ôl adroddiad newydd gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ni ddylai Cymru fod yn waeth ei byd o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE, a dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ystyried dyfodol polisi rhanbarthol yn awr.

Casglodd y Pwyllgor hefyd nad yw dilyn yr un un rhawd yn opsiwn; mae angen meddwl creadigol a dull newydd i sicrhau bod unrhyw gyllid yn y dyfodol yn fwy effeithiol yn y cymunedau lle y mae’n cael ei dargedu.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

"Yn y tymor byr, mae angen sicrwydd o ran beth a geir yn lle’r £2 biliwn y mae Cymru yn ei gael ar hyn o bryd i gefnogi datblygiad economaidd rhai o’n hardaloedd tlotaf.

"Y tu hwnt i hynny, gwyddom y gall ymadael â’r Undeb Ewropeaidd greu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Rhaid i ni edrych o’r newydd ar y ffordd y mae ein gwlad yn ymdrin ag anghydraddoldeb a gwahaniaethau o ran perfformiad economaidd, a rhaid cynllunio ar ei gyfer yn awr.

"Roeddem yn siomedig iawn o glywed y neges a gawsom, a oedd yn galw am ragor o’r un peth, a chyda’r diffyg dychymyg, y diffyg creadigrwydd a’r diffyg uchelgais sy’n sail i’r safbwynt hwn.

"Nid yw dal ati yn yr un un ffordd yn opsiwn, a rhaid i bawb, o Lywodraeth Cymru i’r sector preifat, ein prifysgolion a’r trydydd sector, ddechrau meddwl am ddulliau newydd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd sy’n wynebu ein cenedl.

"Mae hon yn alwad am ddull gweithredu newydd ar gyfer Cymru, sy’n her y dylai pawb ei derbyn."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phob partner perthnasol i fynegi gweledigaeth glir a phwrpas y polisi rhanbarthol yn y dyfodol sy’n gwneud y gorau o’r cyfle i feddwl o’r newydd ac sy’n ystyried y manteision ac anfanteision wrth lunio strategaeth ddiwydiannol newydd i Gymru ar ôl gadael yr UE;
  • bod Llywodraeth Cymru yn cadw goruchwyliaeth ac yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer polisi rhanbarthol yn y dyfodol yng Nghymru tra’n sicrhau bod polisi yn y dyfodol yn ymatebol i anghenion lleol a bod y cyfrifoldeb dros gyflwyno wedi’i amlinellu’n glir; a
  • Gallai un addasiad i’r Grant Bloc, er ei fod yn dderbyniol yn y byrdymor, beri risgiau yn y tymor hwy ac felly argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian wedi’i brofi ar gyfer y dyfodol ac yn edrych ar rinweddau fformiwla gwrthrychol sy’n seiliedig ar anghenion, fel y cytunwyd gan bob gwlad yn y DU.

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.

Darllen yr adroddiad llawn:

Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru?

(PDF, 1MB)