Mae angen ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus pan gaiff treth incwm ei datganoli i Gymru - yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 23/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae angen i bobl wybod sut mae eu trethi yn newid a sut y bydd yn effeithio arnynt pan gaiff treth incwm ei datganoli i Gymru y flwyddyn nesaf.

Daw'r argymhelliad gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi bod yn edrych ar sut y caiff trethi newydd eu casglu yng Nghymru.

O dan Ddeddf Cymru 2014 daw trethi, gan gynnwys trafodiad tir (treth stamp fel ag yr oedd) a gwarediad tirlenwi, o dan gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru ar 1 Ebrill.

Yn 2019, bydd cyfran o'r dreth incwm a godir yng Nghymru yn aros yma i ffurfio cyllideb Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad, caiff y grant bloc, sef y swm o arian a dderbynnir gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, ei addasu i gydnabod y pwerau cyllidol newydd hyn.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, "Bydd y trethi datganoledig hyn yn golygu bod Cymru'n gyfrifol am godi cyfran o'i chyllideb ei hun bob blwyddyn, yn hytrach na derbyn cyfandaliad o Lundain.”

"Felly mae'n hanfodol bod y trethi hyn yn cael eu casglu'n effeithlon, yn effeithiol a bod pobl yn ymwybodol o sut y defnyddir eu trethi a sut mae'n effeithio arnynt.

"Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru, sef y corff newydd ar gyfer casglu trethi, gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus helaeth i helpu pobl i ddeall y newidiadau hyn fel bod ganddynt fwy o wybodaeth am y pwerau a'r cyfrifoldebau sydd yng Nghymru."

Mynegodd y Pwyllgor bryderon hefyd ynghylch cynnydd yn y gost o drosglwyddo trethi gan Cyllid a Thollau EM i Awdurdod Cyllid Cymru - a amcangyfrifir fydd yn £1.8 miliwn, ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r sefyllfa yn ofalus.

Mae hefyd yn galw am ystyried yn ofalus nifer y staff sydd ar secondiad yn yr Awdurdod ar hyn o bryd, gan rybuddio y bydd angen trosglwyddo gwybodaeth a chadw sgiliau pan fyddant yn dychwelyd i'w swyddi rheolaidd.

Caiff canfyddiadau'r Pwyllgor eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (PDF, 1 MB)