Mae angen ystyried ymhellach cyn diwygio unrhyw drefniadau lobïo yng Nghymru medd pwyllgor

Cyhoeddwyd 11/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae angen ystyried dysgu o'r profiad o sut y mae cofrestri lobïwyr statudol yn gweithredu mewn mannau eraill yn y DU a chasglu gwybodaeth ychwanegol am raddfa gweithgaredd lobïo yng Nghymru cyn gwneud unrhyw newidiadau i reoliadau lobïo, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywed adroddiad newydd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ei ymchwiliad i Lobïo, y dylai fod cymaint o dryloywder â phosibl ynghlwm â'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu dylanwadu yng Nghymru. Hefyd, dylid ystyried cofrestr statudol o lobïwyr, ond nid nes y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu ar gofrestri mewn mannau arall, fel y gall Cymru ddysgu o'r arferion gorau sy'n dod o weddill y DU. Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad oes fawr o dystiolaeth i ddangos bod cofrestri statudol yn eu ffurf bresennol yn darparu'r wybodaeth gywir i wella tryloywder.

Yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth, ychydig o dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor i gefnogi cofrestr wirfoddol, ond mae'r Pwyllgor o'r farn bod y cyfnod hyd at yr adolygiad o ddeddfwriaeth lobïo'r Alban yn rhoi amser i'r diwydiant lobïo yng Nghymru ddangos sut y gallai system wirfoddol weithio. Yn ogystal, cafodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth a oedd yn awgrymu y gallai cyhoeddi dyddiaduron Aelodau'r Cynulliad helpu i sefydlu maint a chwmpas gweithgaredd lobïo yng Nghymru ac felly mae'n argymell cynnal cynllun peilot o gyhoeddi dyddiaduron Aelodau'r Cynulliad.

Dyma rai o argymhellion eraill yr adroddiad:

  • Bod Comisiwn y Cynulliad yn sicrhau bod pasys diogelwch holl staff y Cynulliad Cenedlaethol yn peidio â gweithio ar eu diwrnod olaf o gyflogaeth. Byddai hyn yn sicrhau nad oes gan unrhyw lobïwr bas y Cynulliad Cenedlaethol gan ei gwneud yn haws cynnal enw da'r Cynulliad fel sefydliad sy'n caniatáu mynediad teg a chyfartal i bawb; 

  • Bod gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a noddir gan Aelodau'r Cynulliad a gynhelir ar Ystâd y Cynulliad, ac nid dim ond y digwyddiadau hynny mewn mannau cyhoeddus, yn cael ei chynnwys yn y calendr cyhoeddus;

  • Bod gwaith ymchwil yn cael ei gomisiynu gan Gomisiwn y Cynulliad, gan fapio llwybrau dylanwad i greu sylfaen dystiolaeth gytbwys ac ystyried dulliau amgen, a allai fod yn fwy effeithiol, i gynyddu tryloywder, ar wahân i gofrestr statudol;

  • Bod adrannau perthnasol o Ddeddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 sy'n berthnasol i Gymru yn cael eu hystyried gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl deddfiad Deddf Cymru 2017.

Dywedodd Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Rydym wedi dod i'r casgliad o'r ymchwiliad hwn bod angen i lobïo fod yn rhan o ddeialog barhaus mewn democratiaeth agored a chysylltiedig. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gasglwyd nad oes ateb syml i'r cwestiynau o sut i ddiffinio neu rannu gwybodaeth am lobïo.  Mae er budd y cyhoedd i ganfod effaith grwpiau sy'n ceisio dylanwadu ar wleidyddion. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd ynglŷn â'r ffordd orau i'r cyhoedd gael mynediad at y wybodaeth hon ar ôl ei chael. 

"Sefyllfa dros dro yw canfyddiadau'r adroddiad hwn. Mae'r Pwyllgor yn teimlo ei bod yn hanfodol dysgu o brofiad a chasglu tystiolaeth bellach o arfer gorau. Mae'n ddyddiau cynnar ar ddeddfwriaeth yr Alban a byddwn felly'n monitro'n fanwl yr hyn sy'n digwydd yno a'r adolygiad o'i deddfwriaeth yn 2020. Rhaid rhoi sylw manwl hefyd i ddatblygiadau yn San Steffan a thu hwnt a byddwn yn adolygu'r sefyllfa o bryd i'w gilydd."