Mae atal hunanladdiad yn fusnes i bawb

Cyhoeddwyd 05/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

 

Mae atal pobl ifanc rhag cymryd eu bywydau eu hunain yn fusnes i bawb ac ni all siarad â rhywun sy'n ystyried hunan-laddiad fyth wneud pethau'n waeth.

Arm-around-waist

Dyna'r neges gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad pellgyrhaeddol ar atal hunanladdiad.

Cofrestrwyd 360 o farwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru yn 2017, y ffigur uchaf ers 1981, ond credir y gallai'r ystadegau swyddogol fod yn cuddio gwir raddfa hunanladdiad.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n canolbwyntio ar well cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol, gofal dilynol gwell i'r rheini sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty a chyflwyno fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad. Dywed y dylai Llywodraeth Cymru ystyried amseroedd targed ystyriol os yw'n ddifrifol am gyflawni cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol a meddyliol.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hunanladdiad ymysg dynion fel blaenoriaeth genedlaethol tra'n ei hannog i roi argymhellion penodol ar waith o ran gwella a diogelu iechyd a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad Cadernid Meddwl (PDF 3.75MB) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Ond er bod y pwyllgor yn credu bod angen gwasanaethau gwell a chyson ar frys er mwyn helpu'r rheini y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt, mae hefyd yn credu bod angen mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o faterion hunanladdiad ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â staff rheng flaen yn y gwasanaethau brys.

Dywedodd Dr Alys Cole-King o Connecting with People wrth y Pwyllgor:

"Nid mater i wasanaethau arbenigol yn unig yw hwn. Mae angen i ni ddemocrateiddio'r gwaith o atal hunanladdiad, i'r perwyl bod gan bawb yr hawl i wybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel ac i wybod sut i gadw'r bobl o'u hamgylch yn ddiogel."

Cafodd y Pwyllgor ei synnu gan y diffyg cymorth sydd ar gael ar gyfer y rheiny sydd mewn galar wedi i berson gymryd ei fywyd ei hun. Awgrymwyd bod pob marwolaeth drwy hunanladdiad yn effeithio'n ddwfn ar chwe pherson ar gyfartaledd, a mae'r rheiny sydd mewn galar oherwydd hunanladdiad mewn perygl uwch o ladd eu hunain.

Clywodd yr aelodau nad oes dull gweithredu cyson yng Nghymru, gyda rhai mudiadau yn cynnig cymorth mewn gwahanol feysydd ond heb fawr o ran arian cyhoeddus i'w cefnogi.

Mae Cymorth wrth Law Cymru yn un o'r gwasanaethau o'r fath, sy'n cael ei  ddarperu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Clywodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn effeithiol ac yn help mawr, ond nad oes digon o bobl, gan gynnwys pobl yn y proffesiwn meddygol, yn gwybod ei fod yn bodoli.

Hefyd, mae anghysondeb yn y ffordd o ymdrin â materion iechyd corfforol a materion iechyd meddwl. Yn aml, mae amseroedd aros yn gysylltiedig ag atgyfeiriadau ar gyfer materion neu symptomau corfforol i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu'n gyflym. Ond nid oes unrhyw ddangosyddion perfformiad o'r fath ar gyfer materion iechyd meddwl neu brofedigaeth, sy'n golygu nad yw pobl yn aml yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.

Cyfeiriodd Dr Kathryn Walters, seicolegydd clinigol ymgynghorol gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain, at farwolaeth drwy hunanladdiad claf ifanc oedd i fod i dderbyn therapi ymddygiad dialegol chwech i wyth mis cyn iddi farw, ond fe aeth y clinygydd fyddai'n darparu'r therapi yn sal a ni ddarparwyd gwasanaeth yn ei le.

"Nid oedd hi'n gallu cael gwasanaeth, ac rwy'n dechrau meddwl a fyddai person yn yr un sefyllfa pe bai'n cael ei atgyfeirio ar gyfer cemotherapi.

"Ac rwy'n tybio mai'r anhawster yw ein bod ni bob amser yn y sefyllfa ei bod hi'n anodd dweud yn ddigamsyniol beth rydym wedi'i atal rhag digwydd drwy wasanaethau iechyd meddwl.

"Mae hyn yn dychwelyd i'r cymhlethdod hwnnw. Ond mae'n peri gofid imi ein bod yn cael cymaint o drafferth. Mae yna wasanaethau lle mae pobl yn mynd ar gyfnod mamolaeth ac nid oes gwasanaeth i lenwi'r bwlch, ac nid wyf yn siŵr bod hynny yn digwydd yn yr un modd yn achos gwasanaethau iechyd corfforol."

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

"Y neges allweddol rydym wedi'i chlywed yw bod hunanladdiad yn fusnes i bawb; dyna'r neges y mae angen i bawb ohonom ei chofio a'i rhannu.

"Gall effeithio ar unrhyw un ac nid oes cymuned yng Nghymru lle nad yw hunanladdiad wedi effeithio ar ei phobl.

"Mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae o ran cynnig cymorth i bobl sydd mewn angen. Rydym ni'n gwybod y gall cymorth gan rywun arall wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy'n meddwl am hunanladdiad.

"Ni ddylem ddibynnu ar weithwyr proffesiynol meddygol neu'r gwasanaethau brys i ddarparu'r cymorth hwn - gallwn ni i gyd helpu drwy gynnig cyfle i siarad.

"Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o'r pethau bach y gallwn ni i gyd eu gwneud a lledaenu'r neges na fydd siarad â rhywun sydd mewn gofid yn gwneud y sefyllfa'n waeth."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 31 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, drefnu bod cyllid penodol ar gael ar gyfer atal hunanladdiad i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.
  • Dylid mabwysiadu fframwaith hyfforddiant ar atal hunanladdiad a'i weithredu ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn ffordd debyg i'r fframwaith ar gyfer trais domestig, lle y manylir ar y gofynion o ran hyfforddiant yn dibynnu ar y rôl;
  • Dylai Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o hyrwyddo deunyddiau sydd eisoes yn bodoli, megis yr adnodd hyfforddi "See. Say. Signpost." fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a sefydlu'r neges bod hunanladdiad yn fusnes i bawb ac y gall ddigwydd mewn unrhyw gymuned ar unrhyw adeg;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar fyrder i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn ymwybodol o ganllawiau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynghylch rhannu gwybodaeth a'r datganiad consensws a gytunwyd gan Adran Iechyd y DU, y Colegau Brenhinol a phartneriaid eraill.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol. Dylai hyn fod yn gysylltiedig â "Cymru Iachach", a rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei chynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi yr un flaenoriaeth i iechyd meddwl a lles meddyliol ag y maent yn ei rhoi i iechyd corfforol; a
  • Dylid cyflwyno targed ar gyfer amseroedd aros am therapïau seicolegol i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen yn cael y cymorth hwn o fewn amserlen briodol. Mae mynediad cynnar at therapi priodol yn gallu darparu'r ymyrraeth y mae ei hangen ac atal yr angen i rywun gael gofal mewn argyfwng yn nes ymlaen.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Os yw hunanladdiad neu feddyliau am hunanladdiad wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, gallwch gysylltu â'r Samariaid ar 116 123 neu e-bostio jo@samaritans.org. Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am Cymorth wrth Law Cymru yma.