Mae Bil y Farchnad Fewnol yn gorfodi ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru ac yn ffafrio buddiannau Lloegr

Cyhoeddwyd 26/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae tri o Bwyllgorau’r Senedd wedi galw ar y Senedd i wrthod rhoi ei chydsyniad i Fil Marchnad Fewnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl i fwyafrif eu haelodau fynegi pryderon difrifol am y Bil a'i effaith ar ddatganoli os caiff ei basio.

Ar 10 Medi cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Yn gyfansoddiadol, dyma un o’r Biliau mwyaf arwyddocaol ym mhroses Brexit, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i'r Deyrnas Unedig gyfan a fydd yn para ymhell y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod pontio.

Mae gofyn nawr i'r Senedd roi ei chydsyniad i Fil Marchnad Fewnol y DU, ynghyd â Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi diystyru penderfyniad y gweinyddiaethau datganoledig i wrthod rhoi cydsyniad o’r blaen, fel y digwyddodd yn achos Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Cafodd tri Phwyllgor yn y Senedd y dasg o edrych ar y Bil ac maen nhw wedi codi pryderon difrifol am yr effaith y bydd yn ei chael ar Gymru.


Mae’n ffafrio buddiannau Lloegr mewn ffordd anghymesur

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi argymell y dylai’r Senedd wrthod rhoi ei chydsyniad i'r Bil am y rhesymau a ganlyn:

  • bydd yn lleihau pwerau'r Senedd
  • bydd yn lleihau effaith llawer o’r ddeddfwriaeth y bydd y Senedd yn ei phasio yn y dyfodol, gan gyfyngu ar allu'r Senedd i gyflawni blaenoriaethau pobl Cymru
  • bydd yn ceisio gorfodi ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru, mewn ffordd a fydd yn ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur

Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar gael yma 

Mae'r Pwyllgor yn glir, o gofio maint y farchnad yn Lloegr o'i chymharu â’r farchnad yng ngwledydd eraill y DU, bydd trefniadau mynediad i'r farchnad yn y Bil yn anghymesur o blaid dewisiadau polisi Lloegr yn hytrach na dewisiadau cenhedloedd eraill y DU. 

Mae'r Bil hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU ar sut y bydd marchnad fewnol y DU yn gweithio yn y dyfodol. Mae hyn yn ffafrio Lloegr gan fod Gweinidogion y DU yn gweithredu dros Loegr yn unig mewn meysydd polisi datganoledig, ond eto bydd ganddynt bwerau i addasu sut mae'r farchnad fewnol yn gweithredu ac fe allan nhw weithredu heb gydsyniad y llywodraethau datganoledig. 

“Ni ellir anwybyddu barn Senedd Cymru ar fater cyfansoddiadol mor bwysig. Gallai Bil y Farchnad Fewnol wyrdroi dau ddegawd o waith ar ddatganoli os caiff ei basio. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth y DU i beidio anwybyddu dymuniad y Senedd am y bydd y Bil hwn yn lleihau pŵer y Senedd a bydd yn lleihau effaith cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru.

“Mae cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yn y Senedd yn cael eu pasio ar ran pobl Cymru yn ôl anghenion pobl Cymru - mae’r Bil yn ceisio gorfodi ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru mewn ffordd sy’n ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur.” - David Rees AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol


Effaith uniongyrchol ar fywydau bob dydd dinasyddion Cymru

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd wedi codi pryderon difrifol ynghylch Bil y Farchnad Fewnol a sut y bydd yn peryglu datganoli a sefydlogrwydd y DU. Mae hefyd wedi argymell y dylai’r Senedd wrthod rhoi ei chydsyniad i'r Bil.

Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar gael yma

Mae'n credu y byddai'r Bil yn gwneud y canlynol:

  • bygwth datganoli fel y mae
  • cyflwyno datgymhelliant i Lywodraeth Cymru a’r Senedd arloesi ym maes polisi a deddfu
  • tanseilio cyfreithiau sydd wedi cael eu pasio gan y Senedd mewn perthynas â nwyddau a gwasanaethau os nad yw safonau sy'n berthnasol i Bil y Farchnad Fewnol

Mae'r Pwyllgor yn amlinellu sut y byddai'r Bil hwn yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau bob dydd dinasyddion Cymru a sut y bydd yn ychwanegu cymhlethdod diangen ar gyfer defnyddwyr a busnesau. 

Un enghraifft o sut y bydd y Bil yn effeithio ar bobl a busnesau yw’r gwahaniaeth yn rheolau lles anifeiliaid yng ngwledydd y DU. Pe bai Cymru yn gwahardd cig eidion wedi’i drin â hormonau synthetig, ond mae’r rheolau yn wahanol yng ngwledydd eraill y DU, gallai olygu y byddai gwaharddiad Cymru yn cael ei danseilio.

“Nid oes amheuaeth bod Bil y Farchnad Fewnol yn bygwth datganoli fel y mae heddiw. Mae'n tanseilio Llywodraeth Cymru a'r Senedd, a'r gallu i wneud cyfreithiau sy'n bodloni anghenion a dyheadau pobl Cymru.

“Weithiau, mae materion cyfansoddiadol yn cael eu gweld yn bethau haniaethol a sych, ond rydym yn sicr y bydd y Bil hwn gan Lywodraeth y DU, os caiff ei basio, yn effeithio ar fywydau bob dydd dinasyddion Cymru a bydd yn effeithio ar fusnesau Cymru.” - Mick Antoniw AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Tanseilio pŵer Llywodraeth Cymru i wario

Mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi edrych ar Fil y Farchnad Fewnol ac mae wedi nodi heriau sy’n codi mewn perthynas â gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Mawyafrif y Pwyllgor o’r farn y byddai’r goblygiadau cyfansoddiadol ac ariannol a fyddai’n deillio pe bai’r Bil hwn yn pasio ar ei ffurf bresennol yn tanseilio'r setliad datganoli, gan arwain at y posibilrwydd o leihau’r cyllid sydd ar gael drwy Grant Bloc Cymru.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gael yma

Mae'r Pwyllgor yn codi pryderon ynghylch:

  • y posibilrwydd y gwelir gwariant gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig, a goblygiadau'r gwariant hwn ar Grant Bloc Cymru;
  • y diffyg eglurder ynghylch effaith y Bil o ran rheoli cymorthdaliadau mewn perthynas â datganoli trethi, a'r posibilrwydd y gallai rhai polisïau treth yng Nghymru fod yn gyfyngedig neu'n agored i'w herio;
  • a’r diffyg cynnydd hyd yma ynghylch natur a ffurf Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (yr arian a geir yn lle cyllid yr UE) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU dros dair blynedd yn ôl

“Mae’r Bil hwn yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â sut mae arian yn cael ei wario yng Nghymru a phwy sy’n ei wario. Os yw’r Bil yn pasio fel y mae, bydd yn rhoi pŵer i Lywodraeth y DU danseilio Llywodraeth Cymru a gwario arian fel y gwêl yn dda yng Nghymru, a gallai leihau Grant Bloc Cymru.

“Mae hyn yn gwanychu datganoli a phŵer Llywodraeth Cymru i wario arian ar ran ei dinasyddion.” - Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid