Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi (ym mis Medi 2020) ei huchelgais hirdymor o weld 30 y cant o bobl yn gweithio o bell yn rheolaidd, aeth y Pwyllgor ati i lansio ymchwiliad a chomisiynu arbenigwyr o Gymru ac o Ewrop, i asesu'r effeithiau hirdymor posibl yn sgil hyn ar amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- yr economi a busnes;
- canol trefi a dinasoedd;
- y gweithlu a sgiliau;
- iechyd (corfforol a meddwl) a llesiant;
- anghydraddoldeb rhwng gwahanol grwpiau a gwahanol rannau o Gymru (gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chysylltedd gwael);
- yr amgylchedd;
- y rhwydwaith a’r seilwaith trafnidiaeth.
Cydraddoldeb
Mae’n bosibl y bydd gweithio o bell yn effeithio’n sylweddol ar gydraddoldeb mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. Ym marn y Pwyllgor, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gynnwys cydraddoldeb fel elfen brif ffrwd o’i pholisi ar gyfer 'gweithio o bell' a 'gweithio hyblyg' yn fwy cyffredinol er mwyn sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl.
Mae'r Pwyllgor yn pryderu mai'r gweithwyr medrus iawn ar gyflogau da sy'n debygol o elwa fwyaf o'r polisi hwn, felly mae risg wirioneddol o greu rhagor o anghydraddoldeb economaidd. Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar effeithiau economaidd-gymdeithasol ehangach y polisi gweithio o bell.
Er mwyn i'r polisi fod o fudd i bawb, mae'r Pwyllgor hefyd yn galw ar y Senedd nesaf i graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gau'r bwlch digidol a chefnogi unigolion a chymunedau o ran cysylltedd digidol a sgiliau digidol i addasu i'r drefn newydd.
Diogelu'r Gweithlu
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod hyblygrwydd gweithio o bell yn creu llawer o fanteision i weithwyr.
Mae gobaith a disgwyliad eang y bydd model 'hybrid' iachach o weithio hyblyg yn dod i'r amlwg, gyda phobl yn gweithio yn y swyddfa weithiau ac weithiau o gartref, neu drwy rannu mannau gwaith weddill yr amser. Gall Cymru ddysgu cryn dipyn o arfer gorau rhyngwladol – clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan arbenigwyr yn y Ffindir a'r Iseldiroedd yn dangos manteision cadarnhaol yn sgil cynyddu arferion gweithio o bell a gweithio hyblyg.
Clywodd y Pwyllgor fod gweithio gartref wedi bod yn drawsnewidiol i rai gweithwyr anabl, ond dywedodd undebau llafur wrth y Pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer o waith i ddiogelu hawliau pob gweithiwr, sicrhau bod gan reolwyr y sgiliau cywir i gefnogi pobl i weithio o bell yn iach, ac i atal creu gweithlu sydd ‘ar ddwy haen’.
Trefi a Dinasoedd
Clywodd y Pwyllgor am sut y mae canolfannau trefol yn debygol o golli allan os bydd pobl yn gweithio o bell, ond mae’n bosibl y bydd canol trefi a chymdogaethau lleol ‘a adawyd ar ôl’ yn elwa yn sgil hyn.
Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddatblygu cynllun i fanteisio i’r eithaf ar yr enillion hynny ac 'ailddychmygu' canol trefi a dinasoedd fel rhan o'i chynlluniau adfer COVID-19. Mae'r Pwyllgor yn credu bod angen i adrannau ar draws y llywodraeth gydweithio, er mwyn cynnwys cynlluniau i gefnogi manwerthu, cydlyniad cymunedol, trafnidiaeth a mathau eraill o seilwaith.
Canolfannau Gweithio o Bell
Mae Llywodraeth Cymru yn treialu 'canolfannau cymunedol' newydd lle y gall pobl weithio, ond mae'r Pwyllgor yn pryderu bod bylchau yn y dystiolaeth am y rhwydwaith presennol o fannau cydweithio yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fapio'r rhwydwaith presennol o ganolfannau.
Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai 'canolfannau cymunedol' gefnogi cymunedau lleol a'r stryd fawr yn ogystal â chefnogi arloesedd a chydweithrediad. Rhaid rhoi cynlluniau ar waith am gyfleusterau digonol i sicrhau bod y cynllun yn llwyddo, gan edrych ar ofal plant, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, manwerthu a lletygarwch.
Datgarboneiddio a Thrafnidiaeth
Yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru yn glir bod yr angen i ddatgarboneiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth, mynd i'r afael â thagfeydd a llygredd a chyflawni targedau newid hinsawdd uchelgeisiol yn sbardun allweddol ar gyfer polisi yn y maes hwn.
Ond clywodd y Pwyllgor na fyddai’r targed o 30 y cant yn cael fawr ddim effaith ar dagfeydd a gorlenwi ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, gan fod gor-gapasiti eisoes yn broblem cyn COVID-19.
Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
"Dydy’r arfer o weithio mewn swyddfa ddim wedi dod i ben yn llwyr, ond mae gweithio o bell yma i aros, ac mae risgiau ynghlwm wrth hynny. Mae'r ‘Arbrawf Gweithio Gartref Mawr’ wedi newid barn ac wedi dangos manteision amgylcheddol enfawr. Ond mae goblygiadau pellgyrhaeddol i uchelgais Llywodraeth Cymru o weld 30 y cant o weithwyr yn parhau i weithio 'gartref neu'n agos i’w cartrefi'.
"Y gobaith a'r disgwyliad cyffredinol yw y bydd model hybrid iachach o weithio hyblyg yn dod i'r amlwg, ac y bydd hyn yn beth da. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru wneud cryn dipyn o waith i sicrhau'r manteision mwyaf posibl o weithio o bell. Bydd angen iddi fynd i'r afael â risgiau drwy gefnogi cymunedau drwy'r broses o drawsnewid, diogelu hawliau pob gweithiwr, sicrhau bod gan reolwyr y sgiliau cywir i gefnogi pobl i weithio o bell yn iach, ac atal datblygu gweithlu sydd "ar ddwy haen".
"Mae modd cyflawni’r uchelgais o 30 y cant yn ôl pob golwg, ond ynghyd â’r enillion amgylcheddol amlwg, rhaid mesur a lliniaru'r effeithiau ehangach. Rhaid cael cynllun i ddelio â symud gweithgarwch economaidd allan o ganol dinasoedd a sicrhau bod cymunedau lleol yn teimlo eu bod yn cael budd. Gweithwyr medrus iawn ar gyflogau da fydd yn elwa fwyaf, ac mae angen ystyried goblygiadau hyn i weddill y gweithlu, ac i arian cyhoeddus.
"Mae manteision amlwg i weithio o bell, ac mae pryderon amlwg hefyd. Mae'n hanfodol, wrth i ni adfer ar ôl COVID-19, ein bod ni’n taro’r cydbwysedd cywir ar gyfer ein cymunedau a’n sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl."
Yr Athro Alan Felstead, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd:
"Bydd y coronafeirws yn effeithio ar y ffordd rydym ni'n gweithio am gyfnod hir, gyda chynnydd anferth yn nifer y bobl sy’n gweithio gartref. Hyd yn oed pan gaiff y cyfyngiadau cymdeithasol eu codi'n llawn, mae'n annhebygol y byddwn ni’n dychwelyd yn llwyr i weithio mewn swyddfeydd traddodiadol. Yn lle hynny, mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos awydd cryf ymhlith cyflogeion i weithio gartref, ac mae cyflogwyr wedi gweld yn glir y gall gweithio hyblyg arwain at fanteision busnes.
"Fodd bynnag, ni fydd y newidiadau hyn yn syml. Bydd angen i ni ailystyried ac ailddychmygu ein syniadau am ein cartrefi a’n gwaith, natur ein trefi a'n dinasoedd, ac asesu a yw ein seilwaith trafnidiaeth a thelathrebu yn addas i'r diben. Drwy bennu targed ar gyfer gweithio o bell a lansio ymchwiliad i'r ffenomen, mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn arwain y ffordd. Mae'r adroddiad heddiw yn nodi dechrau, nid diwedd, y broses honno."