Mae gweithwyr gofal yn haeddu'r un amodau â gweithwyr y GIG - Pwyllgor Iechyd

Cyhoeddwyd 18/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae adroddiad wedi ei lansio heddiw gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd yn galw am gydraddoldeb rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol â’u cydweithwyr yn y GIG - o ran amodau, telerau gwaith a’r modd y cânt eu hystyried gan eraill. 

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut y bydd gwaith i broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol yn creu llwybr gyrfa clir, gyda tâl priodol, i weithwyr gofal cymdeithasol.

Mae'r Pwyllgor o'r farn bod Covid-19 wedi tynnu sylw at gyfraniad enfawr gweithwyr gofal cymdeithasol ac wedi amlygu’r ffaith bod angen diwygiadau brys - mae'n galw am drefniant cyllido cynaliadwy a hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol gan nodi ei bod yn hen bryd i hyn ddigwydd.

Seibiant i ofalwyr di-dâl

Mae’r Pwyllgor yn credu mai gofalwyr di-dâl yw conglfaen gofal yn y gymuned, gan mai nhw sy’n gyfrifol am ddarparu'r rhan helaeth o ofal yng Nghymru a, hebddynt, byddai'r system gofal cymdeithasol yn chwalu. Mae hon yn broblem y mae’r Pwyllgor wedi bod yn tynnu sylw ati ers blynyddoedd lawer ac mae’n glir bod gofalwyr, hyd yn oed cyn y pandemig, yn cael trafferth ymdopi â’r pwysau ac yn cael eu llethu gan flinder, problemau iechyd corfforol a meddyliol a gor-bryder, a chan y ffaith eu bod wedi’u gwahanu oddi wrth eu ffrindiau a’u teuluoedd ac yn teimlo’u bod yn colli eu hunaniaeth. 

Mae aelodau’r Pwyllgor yn pryderu am y pwysau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu ac yn galw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau gofalwyr i ddatblygu ffyrdd mwy creadigol o drefnu i ofalwyr di-dâl gael seibiant a chyfnodau o egwyl byr.

Cymorth ariannol a chefnogaeth i ofalwyr ifanc

Mae arolwg a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar effaith y coronafeirws ar ofalwyr ifanc rhwng 12 a 17 oed ac oedolion ifanc rhwng 18 a 25 oed sy’n ofalwyr yn dangos dirywiad sylweddol yn iechyd meddwl a llesiant miloedd o bobl ifanc ledled Cymru sy'n darparu gofal di-dâl gartref i aelodau o'r teulu neu ffrindiau. 

Mae'r Pwyllgor yn glir bod y problemau a oedd yn wynebu gofalwyr ifanc eisoes wedi gwaethygu'n arw oherwydd trefniadau addysg gartref a’r ffaith nad yw gofalwyr ifanc wedi cael cyfle i gymdeithasu â'u cyfoedion yn ystod y pandemig. Mae Aelodau'r Pwyllgor yn bryderus iawn am y dystiolaeth y maent wedi'i chlywed am ‘ddirywiad’ iechyd meddwl gofalwyr ifanc yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

Mae’r Pwyllgor yn galw am gyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gofalwyr ifanc ac yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i’r gwaith o ailddechrau darparu cymorth wyneb yn wyneb yn ddiogel.

Straen ariannol ar ofalwyr

Wrth gasglu tystiolaeth, clywodd y Pwyllgor fod gofalwyr hefyd yn teimlo straen ariannol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Yn ôl Gofalwyr Cymru, mae mwy na chwarter y gofalwyr yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd pwysau ariannol ychwanegol y pandemig. Clywodd y Pwyllgor nad yw gofalwyr sy'n dibynnu ar lwfans gofalwyr yn derbyn cymhorthdal yn ystod y pandemig, yn wahanol i’r rhai sy’n cael budd-daliadau o dan ymbarél credyd cynhwysol, a bod nifer gynyddol o ofalwyr hefyd yn cael eu rhoi yn y sefyllfa anodd o orfod penderfynu rhwng gwaith cyflogedig a'u cyfrifoldebau gofalu. Mae clywed am y nifer gynyddol o ofalwyr sy'n defnyddio banciau bwyd o ganlyniad i'r pwysau ariannol hyn yn peri pryder i’r Pwyllgor.

Fel rhan o’i waith o graffu ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ‘trefniadau cyllido hirdymor, cynaliadwy a symlach’ ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i ofalwyr. Er iddi dderbyn hyn mewn egwyddor, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn. O ystyried y pwysau ariannol sy’n wynebu gofalwyr oherwydd COVID-19, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r argymhelliad hwn ar waith, fel mater o frys.

Brechlyn i ofalwyr

Penderfynodd Llywodraeth Cymru gynnig brechlyn COVID-19 i ofalwyr drwy eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6. Mae'r Pwyllgor yn monitro sut mae Llywodraeth Cymru yn dod i wybod am ofalwyr di-dâl ac yn cysylltu â nhw i gynnig y brechlyn iddynt ac yn credu ei bod yn hynod bwysig nad yw grwpiau o ofalwyr di-dâl yn cael eu hatal yn annheg rhag cael y brechlyn.

Ymweld â chartrefi gofal

Dros y 12 mis diwethaf, mae pob cartref gofal yng Nghymru wedi cyfyngu ar ymweliadau â phreswylwyr ar ryw adeg. Er bod Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes unrhyw 'waharddiad cyffredinol' a'i bod yn annog cartrefi i ganiatáu ymweliadau diogel, clywodd y Pwyllgor bod rhai cartrefi yn parhau i’w gwahardd.

Mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth am y niwed sy’n cael ei achosi i’r preswylwyr a'u hanwyliaid drwy eu cadw ar wahân cyhyd, ac mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu. Mae’r Pwyllgor yn galw am y canlynol:

  • rhaid i gartrefi gofal gael mynediad at yr holl offer a chyfleusterau angenrheidiol (e.e. unedau bach a phrofion llif unffordd i ymwelwyr) er mwyn galluogi ailddechrau ymweliadau.
  • rhaid cryfhau canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal i sicrhau mai caniatáu ymweliadau diogel fydd y sefyllfa ddiofyn.
  • dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Fforwm Gofal Cymru i gael a chynnal darlun clir o'r sefyllfa ledled Cymru o ran ymweliadau â chartrefi gofal yn barhaus, ac i hwyluso'r broses o rannu arfer da rhwng cartrefi gofal gyda'r bwriad o gynyddu nifer y cartrefi sy'n cefnogi ymweliadau diogel.

Dr Dai Lloyd AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd:

“Yn wahanol i'r GIG, y bydd pawb wedi'i ddefnyddio rywbryd yn eu bywydau, mae'r sector gofal cymdeithasol yn anweledig i raddau helaeth ac eithrio i'r rhai hynny sydd angen ei gefnogaeth, ac iddyn nhw, mae’n amhrisiadwy.

“Mae COVID-19, fodd bynnag, wedi amlygu’r cyfraniad enfawr y mae ein gweithlu gofal cymdeithasol yn ei wneud i gadw ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ddiogel. Mae hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i ddiwygio’r system ac i ddatblygu trefniant cyllido cynaliadwy a hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol y bu sôn amdano ers amser maith, ac mae’n hen bryd i hyn ddigwydd.

“Rydym hefyd wedi galw am gydraddoldeb rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol a'u cydweithwyr yn y GIG, o ran telerau ac amodau eu cyflogaeth a'r canfyddiad a geir ohonynt.

“Rhaid inni hefyd gynorthwyo’r rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u hanwyliaid. Rydyn ni i gyd wedi clywed y straeon torcalonnus am breswylwyr cartrefi gofal yn cael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid yn ystod y pandemig hwn. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymyrryd ar frys i sicrhau mai caniatáu ymweliadau diogel fydd y sefyllfa ddiofyn mewn cartrefi ledled Cymru.

“Heddiw rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau brys i gefnogi'r gwaith hanfodol y mae gofalwyr  cyflogedig a di-dâl yn ei wneud bob dydd i ddiogelu a chynorthwyo ein dinasyddion mwyaf agored i niwed. Rydym yn galw am i ofalwyr gael eu cefnogi, eu cydnabod a’u gwobrwyo i’w galluogi i barhau i ofalu cyhyd ag y dymunant wneud hynny.”