Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â dangos bod Cymunedau yn Gyntaf, ei rhaglen sy’n werth £214 miliwn, yn cynnig gwerth am arian

Cyhoeddwyd 23/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â dangos bod Cymunedau yn Gyntaf, ei rhaglen sy’n werth £214 miliwn, yn cynnig gwerth am arian

23 Chwefror 2010

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â dangos bod ei rhaglen flaenllaw, Cymunedau yn Gyntaf, yn cynnig gwerth am arian, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu’r ymchwiliad bod y cynllun, sydd wedi costio £214 miliwn ers iddo gael ei lansio yn 2001, wedi profi diffyg arweinyddiaeth clir o’r brig i lawr, sy’n effeithio ar y ddarpariaeth yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuwyd yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2009 feirniadu sut roedd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei weithredu. Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn cyfeirio at bryderon tebyg a amlinellwyd mewn adroddiadau blaenorol yn 2003 a 2006.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Dyma’r pedwerydd adroddiad a fu’n feirniadol iawn o Cymunedau yn Gyntaf ers ei lansio yn 2001.

“Er bod y rhaglen yn cael ei gweithredu gyda’r bwriadau gorau i gynorthwyo cymunedau difreintiedig, clywodd y Pwyllgor nad oes digon o gymorth ac arweiniad o hyd gan y rhai ar y brig i’r rheiny sydd ar lawr gwlad.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau mawr i sut y caiff y rhaglen hon gael ei gweithredu i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni ei hamcanion canmoladwy.”

Yn ystod sesiynau tystiolaeth, clywodd y Pwyllgor nad oedd Llywodraeth Cymru, mewn nifer o achosion, yn medru dangos cyswllt uniongyrchol rhwng Cymunedau yn Gyntaf ac unrhyw welliant mewn safonau yn yr ardaloedd a oedd wedi cael buddsoddiad.

Bu’r Pwyllgor hefyd yn clywed bod angen i swyddogion wneud defnydd gwell o ‘blygu rhaglenni’ er budd Cymunedau yn Gyntaf, sy’n golygu newid meini prawf cynlluniau ariannu eraill i roi blaenoriaeth i’r ardaloedd lle'r oedd Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio ynddynt.

Cafwyd pedwar argymhelliad gan y Pwyllgor yn ei adroddiad:

- Bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol ac yn darparu manylion ynghylch sut y mae’n bwriadu cyflawni’r argymhellion hynny.

- Bod polisïau sydd eisoes yn bodoli yn cael eu hailasesu ac, os oes angen, yn cael eu diwygio i gyflawni amcanion Cymunedau yn Gyntaf yn well.

- Bod rhagor o anogaeth i awdurdodau lleol a’r sawl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i ganolbwyntio ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf trwy blygu rhaglenni a thrwy gynnig cymhellion.

- Bod canlyniadau’n cael eu monitro’n well i ddangos bod buddsoddi arian cyhoeddus yn dod â llwyddiant pendant wrth geisio cyflawni amcanion Cymunedau yn Gyntaf.