Mae pobl â chyflyrau cronig yn treulio llai o flynyddoedd mewn iechyd da

Cyhoeddwyd 29/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/01/2025   |   Amser darllen munudau

Nid yw pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor – megis diabetes, endometriosis, blinder cronig a chyflyrau hunanimiwn – yn cael digon o gefnogaeth gan wasanaethau iechyd a gofal y GIG i reoli eu cyflyrau'n effeithiol a mwynhau gwell iechyd am gyfnod hwy.

Mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw, 29 Ionawr 2025, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i hoelio’i ymdrechion ar ddarparu gofal sy’n ateb anghenion yr unigolyn, gyda gwasanaethau integredig i bobl sy’n byw â chyflyrau iechyd hirdymor.

Ar ben hynny, mae angen mwy o bwyslais ar atal dirywiad mewn iechyd ac ar leddfu pwysau ar wasanaethau trwy leihau'r angen am ymyrraeth frys a thriniaeth yn yr ysbyty.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyflyrau cronig yn effeithio ar 46% o oedolion yng Nghymru, gyda 19% yn dioddef o ddau gyflwr hirdymor neu fwy, ac mae disgwyl i’r niferoedd hyn godi.

Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o ddatblygu cyflyrau cronig yn iau, a disgwylir iddynt fod ag o leiaf un cyflwr erbyn eu bod yn 50 oed. Mae'r bobl hyn yn treulio llai o flynyddoedd mewn iechyd da, ac mae angen mwy o gymorth arnynt oddi wrth wasanaethau'r GIG. 

Trin y person nid y cyflwr

Mae cynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2018, yn nodi ei huchelgais ar gyfer gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, gyda ffocws ar gydgysylltu gwasanaethau wedi’u teilwra ar gyfer anghenion unigol. Cyflawnir hyn trwy sicrhau gwell cydweithredu ar draws adrannau, cefnogaeth gan nyrsys arbenigol, clinigau 'siop un stop', a chyngor ar ddeiet, ymarfer corff a llesiant.

Clywodd y Pwyllgor fod hyn yn wahanol iawn i brofiad presennol cleifion o’r GIG yng Nghymru. Clywodd sut mae cyflyrau pobl yn cael eu trin mewn seilos, heb unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd, sy’n arwain at oedi a dryswch wrth i gleifion orfod ceisio deall a delio â’r system. Hefyd, mae diffyg cymorth iechyd meddwl yn peri gofid, yn enwedig ar yr adeg y bydd person yn derbyn diagnosis.   

Phoebe Lewis

Cafodd Phoebe Lewis, 26, o Gaerdydd ddiagnosis o Endometriosis yn 19 oed, 7 mlynedd ar ôl gofyn am gymorth oherwydd poenau mislif. Mae hi'n dweud:

“Mae bod â chyflwr hirdymor yn effeithio ar bob rhan o’ch bywyd, er hynny, dim ond ar eich dyddiau gwaethaf y cewch chi help, a hynny ar gyfer symptomau corfforol. Mae gofal a chymorth parhaus ar gyfer iechyd meddwl mor bwysig i fyw'n dda ac osgoi problemau yn y dyfodol. Mae cael cyngor dim ond pan fyddwch chi’n sâl yn eich caethiwo, ac mae’n anoddach gwella bob tro: yn anoddach mynd yn ôl i’r gwaith, yn anoddach i fyw bywyd normal.

“Mae pethau yn llawer gwell ers i mi gael llawdriniaeth ychydig flynyddoedd yn ôl. Rydw i wedi gwneud llawer o waith i helpu fy hun trwy fwyta'n dda a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, oedd yn anoddach pan oedd fy symptomau'n ddrwg. Rydw i wedi gwneud hyn heb fawr o help gan y GIG a doedd gen i ddim syniad os oeddwn i’n gwneud y peth iawn neu a oedd o’n mynd i weithio.”

Atal afiechyd  

Mae cynllun Cymru Iachach hefyd yn cydnabod bod mesurau i atal cyflyrau cronig ac arafu eu datblygiad yn hanfodol ar gyfer gwella ansawdd bywyd pobl ac ysgafnhau’r pwysau ar wasanaethau. Gall mentrau iechyd cyhoeddus leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn datblygu cyflyrau cronig, a gall sgrinio rheolaidd ar gyfer cleifion sicrhau ymyrraeth gynnar i ganfod problemau cyn iddynt waethygu.

Fodd bynnag, yn aml nid yw gwaith ataliol yn flaenoriaeth ac nid yw'n glir pa gamau sydd wedi cael eu cymryd ers i gynllun Cymru Iachach gael ei gyhoeddi. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi pa gamau sydd wedi cael eu cymryd i symud gwasanaethau tuag at atal, ac amlinellu sut mae’r camau diweddaru i gyflawni Cymru Iachach yn cefnogi’r newid hwn.

Sylvia Penny  

Mae Sylvia Penny yn 74 ac yn byw yn Ninas Powys ym Mro Morgannwg. Mae ganddi Diabetes Math 2 a chyflyrau eraill lluosog gan gynnwys Parlys Cloch Dwyochrog. Mae’ hi’n teimlo’n rhwystredig gyda’r diffyg cyfathrebu a’r dryswch ynghylch monitro ei chyflwr.

“Mae’r gofal, pan fyddaf yn ei dderbyn, wedi bod yn rhagorol, ond mae’r llwybr er mwyn ei gyrraedd yn cymryd gormod o amser. Rydych chi'n cael eich anfon o biler i bost, ac mae diffyg cyfathrebu rhwng adrannau yn arwain at ragor o ddryswch. Mae’n wastraff amser, ymdrech ac arian i bawb. Sawl gwaith rwyf wedi cael presgripsiwn am y feddyginiaeth anghywir, sydd wedi fy ngwneud yn sâl, sy'n golygu mwy o amser ac ymdrech i'w chywiro. Mae'n anodd gwybod pwy sy'n gyfrifol a barn pwy y dylwn ymddiried ynddi.

“Mae diffyg monitro diabetes wedi arwain at ddatblygiad trydydd parlys nerfol, sydd yn golygu fod angen rhagor o brofion, triniaeth a meddyginiaethau. Mae hyn yn parhau ac rydw i'n ddiolchgar iawn am y gofal rydw i'n ei dderbyn nawr gan yr ysbytai."

Baich anghynaladwy ar ein GIG

Russell George MS, Chair of the Health and Social Care Committee

Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:

“Er gwaethaf galwadau cyson am weithredu, a’r chwe blynedd sydd wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r cynllun Cymru Iachach, mae Llywodraeth Cymru yn dal i fethu â darparu’r cymorth sydd ei angen ar bobl i fyw’n dda am gyfnod hirach. Mae'r methiant hwn nid yn unig yn effeithio ar ansawdd bywyd unigolion ond hefyd yn rhoi baich anghynaladwy ar ein GIG.

“Mae gofal acíwt y GIG wedi bod yn destun llawer o sylw, ond mae llawer llai o ffocws wedi bod ar bobl sy’n dibynnu ar fynediad rheolaidd at ofal iechyd i reoli un neu fwy o gyflyrau cronig.

“Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion i wella’r sefyllfa, ond yn y pen draw, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant ar unwaith i ddiogelu iechyd y genedl a dyfodol y GIG.”

Mwy am y stori hon

Darllenwch yr adroddiad: Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig 

Dysgwch fwy am waith y Pwyllgor