Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn croesawi siaradwr o Awstralia ar ei ymweliad cyntaf i’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn croesawi siaradwr o Awstralia ar ei ymweliad cyntaf i’r Cynulliad

Bydd Mr Harry Jenkins AS, Llefarydd Ty’r Cynrychiolwyr yn Senedd Awstralia, yn ymweld â’r Cynulliad ddydd Mawrth, 14 Gorffennaf.

Mae Mr Jenkins yn gwneud yr un swydd yn Awstralia â Llefarydd Ty’r Cyffredin, a bydd yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl dau ymweliad tebyg â San Steffan a’r Alban.  

Mae’r Llefarydd yn awyddus i edrych ar themâu penodol wrth ymweld â’r seneddau, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn y siambr, trefniadau diogelwch a chardiau diogelwch, hawliau’r aelodau, canllawiau ffilmio a ffotograffiaeth a’r gweithdrefnau ar gyfer protestiadau a gwrthdystiadau cyhoeddus.

Wrth ymweld â Chymru, mae’r Llefarydd wedi dweud bod ganddo ddiddordeb arbennig yn y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn y siambr. Mae ganddo ddiddordeb hefyd yn y modd y caiff hawliau’r Aelodau eu rheoli, a hynny wrth i’r Cynulliad Cenedlaethol newid y math o gymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad a chreu system dryloyw ar gyfer ymdrin â hynny.

“Mae’n bleser o’r mwyaf croesawu Mr Jenkins ar ei ymweliad cyntaf â Chynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.

“Cyflwynwyd y byrllysg ar gyfer siambr y Cynulliad i ni gan Senedd De Cymru Newydd, felly mae gennym gysylltiadau agos â’r ardal honno. Mae’r ymweliadau hyn yn fodd o gynnal y berthynas a dysgu gan ein gilydd.”

“Rwy’n gobeithio y caiff Mr Jenkins ymweliad buddiol a diddorol.”