Yn ystod yr haf, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn teithio ledled y wlad yn ein bws arbennig.
Byddwn yn Pride Cymru ar 16 Awst yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i deuluoedd a phobl ifanc, yn ogystal â darparu gwybodaeth am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rôl Aelodau’r Cynulliad.
Eleni, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed eich barn ar ailgylchu yng Nghymru fel rhan o ymchwiliad i sut y gall eich cyngor lleol wella eich gwasanaethau ailgylchu presennol ac annog mwy o gyfranogiad. Caiff eich safbwyntiau eu defnyddio i greu argymhellion ar gyfer sut y caiff eich deunydd ailgylchu ei gasglu yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn awyddus i glywed eich barn ar fodolaeth sylweddau seicoweithredol, a adwaenir yn fwy cyffredin fel cyffuriau penfeddwol cyfreithlon, neu ‘legal highs’. Rydym yn awyddus i wybod eich barn ar ba mor ddiogel yw’r cyffuriau hyn, faint o wybodaeth sydd gennych amdanynt, a ydych yn gwybod sut i gael gafael arnynt ac a ydych yn ymwybodol o’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd wedi cymryd cyffuriau penfeddwol cyfreithlon.
Cofiwch alw heibio a dysgu mwy am sut y mae'r Cynulliad yn gweithio ichi a beth rydym yn ei wneud i sicrhau bod y Cynulliad yn un o gyflogwyr gorau Stonewall ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn y DU.