Mae’r gost o sicrhau bod ysgolion Cymru yn ‘addas i’w diben’ yn dal yn aneglur, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad
3 Rhagfyr 2010
Dylid ei gwneud yn glir faint o arian yn union y byddai’n ei gostio i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn addas i’w diben, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r grwp trawsbleidiol wedi bod yn archwilio’r prosesau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru wrth iddi benderfynu ar fuddsoddi cyfalaf mewn ysgolion a rhoi’r rhaglen ar waith.
Er bod rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi llwyddo i raddau i fynd i’r afael â gwendidau mewn strategaethau blaenorol, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod bylchau sydd angen eu llenwi o hyd.
Mae’r adroddiad yn cynnwys, ymhlith eraill, yr argymhellion a ganlyn:
Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r gwir gost o sicrhau bod ysgolion ym mhob ardal awdurdod lleol yn cyrraedd y safon ‘addas i’r diben’ y cytunwyd arni;
Dylai Llywodraeth Cymru gytuno ar amserlen ar gyfer sicrhau bod ysgolion yn cyrraedd y safon honno;
Dylid annog awdurdodau lleol i gydweithio’n agosach, er mwyn cyrraedd y safonau angenrheidiol gyda llai o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn ganolog; a
Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arweiniad ynghylch lleoedd gwag mewn ysgolion, er mwyn gweithredu’n gydlynol ledled Cymru.
Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae’n hanfodol—nawr fwy nag erioed—bod Llywodraeth Cymru’n sefydlu proses glir a phendant ar gyfer sicrhau bod pob adeilad ysgol yng Nghymru yn cyrraedd y safon.
“Cyflwynwyd y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar adeg pan roedd mwy o arian ar gael ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddangos sut mae’r rhaglen honno wedi cael ei haddasu yn yr hinsawdd ariannol newidiol hon.
“Rydym hefyd am weld yn union beth yw ystyr ‘addas i’r diben’ a phryd y caiff y safon angenrheidiol hwn ei gyrraedd.”
Daw ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn sgil adroddiad a gyflwynwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Gorffennaf eleni.