Rhaid dysgu gwersi o bryniant Fferm Gilestone, yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, sy'n galw am welliannau brys a llywodraethu gwell ar gyfer arferion caffael.
Nododd y Pwyllgor fethiannau sylweddol yn y ffordd yr ymdriniwyd â’r caffaeliad, gan godi pryderon ehangach ynghylch llywodraethu, diwydrwydd dyladwy, ac ymgysylltu cymunedol. Mae adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 28 Gorffennaf 2025) yn tynnu sylw at y ffaith bod y pryniant wedi cael ei ruthro oherwydd pwysau cyllidebol diwedd blwyddyn, gan arwain at gamgymeriadau y gellid bod wedi'u hosgoi.
Ym mis Mawrth 2022, talodd y Llywodraeth £4.25 miliwn am rydd-ddaliad Fferm Gilestone, ger Tal-y-bont ar Wysg ym Mhowys, fel rhan o gynllun i sicrhau dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd gerllaw. Ers hynny, mae gwerth yr ased wedi gostwng £0.5 miliwn.
Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd: “Mae’r Pwyllgor yn bryderus iawn ynglŷn â’r ffordd yr aeth Llywodraeth Cymru ati i brynu Fferm Gilestone. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu'n gyflym i gefnogi'r sector creadigol, cafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar frys diangen a heb y diwydrwydd dyladwy trylwyr y mae gan y cyhoedd bob rheswm i’w ddisgwyl. Mae'n codi cwestiynau difrifol ynghylch prosesau mewnol a chadernid strwythurau llywodraethu.
“Ar ben hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau ei bod nid yn unig yn ymgynghori â chymunedau, ond ei bod o ddifrif yn gwrando arnyn nhw. Rhaid i waith ymgysylltu fod yn ystyrlon, yn gynhwysol, ac yn gyson.
“Mae’r gostyngiad sylweddol yng ngwerth yr eiddo yn arbennig o nodedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, ac rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru egluro ei bwriadau ar gyfer y safle yn y dyfodol a nodi sut y bydd yn lleihau’r golled ariannol i bwrs y wlad.
“Er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu, bydd y Pwyllgor am wneud gwaith pellach i edrych ar ddull Llywodraeth Cymru o fuddsoddi mewn eiddo, er mwyn asesu a yw’r prosesau presennol yn ddigon trylwyr ac yn addas i’r diben.”