Mam merch a ddioddefodd losgiadau yn rhoi tystiolaeth yn sesiwn dystiolaeth gyntaf yr ymchwiliad i welyau haul

Cyhoeddwyd 09/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mam merch a ddioddefodd losgiadau yn rhoi tystiolaeth yn sesiwn dystiolaeth gyntaf yr ymchwiliad i welyau haul

Bydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau ei ymchwiliad i’r defnydd o welyau haul a’u rheoleiddio heddiw (9 Gorffennaf).

Yn y sesiwn dystiolaeth gyntaf, bydd Aelodau’n cael tystiolaeth gan elusennau canser, y Gymdeithas Gwelyau Haul, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a Jill McRae, sy’n fam i Kirsty McRae, merch 14 oed a ddioddefodd losgiadau ar ôl defnyddio salon lliw haul heb staff goruchwylio.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae pryder cynyddol ymysg y cyhoedd bod plant mwy a mwy ifanc yn defnyddio gwelyau haul yn rheolaidd ac mewn rhai achosion mae hyn wedi arwain at rai ohonynt yn llosgi’n ddifrifol.”

“Dyna pam rydym ni, fel pwyllgor, wedi penderfynu ystyried y mater hwn. Rydym yn mynd i gael tystiolaeth gan y diwydiant ynghyd â phobl sy’n defnyddio gwelyau haul.

“Os byddwn yn penderfynu bod angen gwell rheoleiddio, efallai bydd y Pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael pwerau deddfu er mwyn creu cyfreithiau newydd i sicrhau bod gwelyau haul yn ddiogel ar gyfer y bobl sy’n eu defnyddio yng Nghymru.”

Dyma rai o’r materion bydd y Pwyllgor yn eu hystyried:

- Y defnydd o welyau haul gan blant
- Y gorddefnydd o welyau haul
- Goruchwylio defnyddwyr gwelyau haul
- Y defnydd o beiriannau a weithredir gan ddarnau arian
- Monitro a chyfyngu ar sesiynau gwelyau haul
- Darparu gwybodaeth am berygl posibl i iechyd mewn canolfannau gwelyau haul

Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol