Margaret Thatcher and Aneurin Bevan at the National Assembly for Wales

Cyhoeddwyd 19/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Margaret Thatcher ac Aneurin Bevan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd gwaith celf newydd yn portreadu Margaret Thatcher ac Aneurin Bevan yn cael ei arddangos yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o Fai'r 21ain am ddeuddeng wythnos.

Mae'r artist o Gaerdydd, Dylan Hammond, wedi torri portreadau o'r ddau gawr gwleidyddol drwy ddalennau tunplat gaiff eu hongian ar ffenestri enfawr y Senedd. Dyma'r gwaith celf gweledol cyntaf i'w gynllunio'n arbennig i'w arddangos yng nghartref y Cynulliad Cenedlaetho ers iddo agor ei ddrysau ddwy flynedd yn ol.

Bydd y ddau bortread, y naill a'r llall yn mesur 4.3m x 3m, i'w gweld o'r tu allan yn ogystal a thu fewn y Senedd.

Mae'r prosiect, fu ar waith ers 5 mis, wedi cael cefnogaeth rhyngbleidiol gan Aelodau'r Cynulliad Andrew Davies, Alun Cairns, Jenny Randerson a Jocelyn Davies.

Meddai'r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Mae'r Senedd yn perthyn i bobol Cymru ac mae'n addas ei fod yn gartref, o bryd i'w gilydd, i waith artistiaid. Rydw i'n gobeithio y bydd y gwaith yn annog pobol i ddod i mewn i'r Senedd i ddysgu mwy am yr hyn sy'n cael ei wneud yma yn eu henw nhw. Os yw'n ennyn trafodaeth ymhlith ymwelwyr, yna fe fydd hynny'n beth da i ddemocratiaieth Cymru".

Yn ol yr hanesydd, John Davies: "Ychydig iawn o wleidyddion sydd wedi gwneud mwy i saernio'r Gymru ry'n ni'n byw ynddi heddiw. Fel pensaer y Gwasanaeth Iechyd roedd Aneurin Bevan yn gredwr mewn sosialaeth ac yng ngrym y colectif, neu'r bobol ar y cyd. Roedd Margaret Thatcher yn elyn pendant i'r ddau ond, er gwell neu er gwaeth, mae hi'n rhan o'r stori hefyd. Maen nhw'n cynrychioli dau begwn y byd gwleidyddol ac i ryw raddau ry'n ni i gyd, wleidyddion a Chymry cyffredin, yn byw ac yn gweithio yn eu cysgod".  

Meddai'r artist Dylan Hammond: "Yr hyn ysgogodd y gwaith oedd ffasad gwydr y Senedd, sy'n symbolaidd o lywodraeth agored a thryloyw. Mae'r delweddau dwi'n eu darlunio'n gofiannau o'r byw ac o'r meirw. Ychydig linellau sy'n creu'r portread ond yna daw'r broses dorri gyda'i gwreichion a'i helfen o hap a damwain. Yn baradocsaidd mae'r metel yn dod yn hyfyw unwaith eto wrth iddo rydu a dirywio ac wrth i'r golau chwarae arno.