Roedd gwerth y fasnach oedd yn mynd drwy Gaergybi fis Rhagfyr diwethaf bron hanner biliwn yn llai na’r flwyddyn flaenorol, fel y dywedwyd wrth un o bwyllgorau’r Senedd gan Lywodraeth Cymru.
Bu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn feirniadol o ymateb Llywodraeth Cymru i gau’r porthladd y llynedd, ac mae’n credu mai hwn oedd un o’r prif ffactorau o ran colli masnach.
Mynegodd yr Aelodau siom ynghylch y “diffyg cyflymder a brys” gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i gau porthladd fferi prysuraf Cymru.
Ar ôl cynnal ymchwiliad a chasglu tystiolaeth gan sefydliadau allweddol sy’n ymwneud â’r porthladd, mae adroddiad y Pwyllgor yn galw am ‘adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd’ i Gaergybi, i fod yn barod ac yn wydn yn y dyfodol.
Dywedodd Andrew R T Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd:
“Caergybi yw ail borthladd fferi prysuraf y DU ac fe wnaeth difrod a oedd yn ganlyniad storm fis Rhagfyr diwethaf, ar ôl rhagor na mis o fod ar gau, effeithio’n ddifrifol ar rai busnesau lleol. Clywsom am rai cwmnïau yn adrodd am golledion o ddegau o filoedd o bunnoedd.
“Rydym yn siomedig iawn gan y diffyg cyflymder a brys yn ymateb Llywodraeth Cymru i gau llwybr masnach Ewropeaidd hollbwysig.
“Cyfyngedig yw’r dystiolaeth rydym wedi’i gweld bod Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael yn ddigonol â’r problemau a achoswyd gan y cau. Gweithredu lleol a chydweithio rhwng porthladdoedd a rwystrodd i gau porthladd Caergybi rhag bod hyd yn oed yn waeth ar gyfer masnach Cymru a’r economi ehangach.
“Mae’n amlwg nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn dderbyniol – roedd yn rhy araf, a heb ei gydlynu. Gadawyd llawer o bobl yn y tywyllwch oherwydd nad oedd y cyfathrebu'n ddigon da - rhaid i hyn beidio â digwydd eto.
“Mae porthladdoedd a nwyddau’n hanfodol i’n heconomi, ac mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu’r meysydd hyn ers mwy na digon o amser. Cawsom addewid o bolisïau newydd erbyn mis Rhagfyr diwethaf, ond mae hyn bellach wedi’i ohirio tan y flwyddyn nesaf – nid yw hyn yn ddigon da, mae angen gweithredu nawr.”
Pwy sydd wrth y llyw?
Nid yw’n glir i’r Pwyllgor, a sefydliadau allweddol sy’n ymwneud â’r ymdrechion ymateb ac adfer, pa Weinidog sy’n gyfrifol am ymateb Llywodraeth Cymru – efallai bod y dryswch hwn wedi gwaethygu problemau o ran yr ymateb i’r argyfwng hwn.
Mae’r Pwyllgor yn argymell, mewn unrhyw ddigwyddiadau o’r raddfa neu’r cymhlethdod hwn yn y dyfodol, y dylai Llywodraeth Cymru gytuno ar Weinidog arweiniol a fydd yn goruchwylio ac yn atebol am reoli’r ymateb.
Cefnogaeth i fusnesau a gweithwyr lleol
Mae’r adroddiad heddiw yn tynnu sylw at ddiffyg brys wrth ymateb i geisiadau i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt, a dealltwriaeth gyfyngedig o sut mae cau yn effeithio ar y gweithlu lleol - mae'r Pwyllgor am weld darlun cliriach o effeithiau colli swyddi ac oriau gwaith a gollwyd ar aelwydydd.
Ar gyfer y digwyddiad hwn, a digwyddiadau tebyg, dylai Llywodraeth Cymru ddeall yn well beth yw’r effaith ar weithwyr a busnesau, a phenderfynu ar fyrder pa gymorth ariannol a chymorth arall sydd ar gael i’r rhai yr effeithir arnynt gan unrhyw gau porthladdoedd.
Y dyfodol i Gaergybi
Mae’r Pwyllgor o’r farn bod Llywodraeth Cymru wedi dangos diffyg sylw i borthladdoedd a chludo nwyddau fel ei gilydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n pryderu ynghylch dargyfeirio masnach i fannau eraill. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Caergybi yn parhau’n ddewis deniadol ar gyfer masnach.
Yn 2022, lansiodd y Pwyllgor adroddiad, Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, a ddarparodd argymhellion i Lywodraeth Cymru ar faterion cludo nwyddau, yn enwedig sut i fynd i’r afael â phrinder gyrwyr HGV a materion cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi.
Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyflymu ei gwaith i roi’r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw ar waith, a chyflwyno strategaeth forol a phorthladdoedd, a chynllun cludo nwyddau, fel mater o frys.
Tasglu ar gyfer Caergybi
Ar 7 Ionawr cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru y byddai "tasglu aml-randdeiliaid dan arweiniad Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Caergybi" yn cael ei sefydlu.
Bydd y Pwyllgor yn monitro gwaith y tasglu hwn yn agos, ac mae’n credu y dylai ei amcanion gynnwys:
- Deall y ffactorau a achosodd y digwyddiadau yng Nghaergybi, i gael gwybod a oes unrhyw oblygiadau i'r sector porthladdoedd yn ehangach neu bolisïau porthladdoedd
- Sicrhau diogelwch y Porthladd yn y dyfodol
- Gwella cyfleusterau i yrwyr sy’n mynd drwy Gaergybi
- Asesu gwydnwch y cysylltiadau trafnidiaeth i Gaergybi, a'u gwella, gan gynnwys ystyried cysylltiadau rheilffordd;
Cefnogi hyfywedd hirdymor y Porthladd ac osgoi dargyfeirio masnach - Sicrhau bod cynllun wrth gefn cryf ar gyfer unrhyw gyfnodau cau yng Nghaergybi yn y dyfodol, a phorthladdoedd yng Nghymru yn gyffredinol. Yn benodol, dylai hyn gynnwys rheoli traffig, cyfathrebu, gweithredu llwybrau morol amgen a chymorth i fusnesau lleol.
Bydd nawr yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ymateb i adroddiad y Pwyllgor.