Gerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd

Gerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd

Menywod blaengar Butetown yn ysbrydoli Mis Hanes Pobl Dduon

Cyhoeddwyd 21/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2022   |   Amser darllen munud

Bydd darlith flynyddol er anrhydedd i Betty Campbell MBE, y pennaeth Du cyntaf ar ysgol yng Nghymru a’r actifydd cymunedol o Gaerdydd, yn cael ei chynnal yn y Senedd yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon eleni.

Ar y cyd â dangosiad o'r ffilm ddogfen Black and Welsh a sgwrs gyda Liana Stewart, cyfarwyddwyr y ffilm, a gafodd ei magu yn Butetown, bydd y ddau ddigwyddiad yn y Senedd ddydd Iau 27 Hydref yn rhoi llwyfan i hunaniaeth Ddu Gymreig a chymuned Butetown.

Darlith Flynyddol Gyntaf Cerflun Betty Campbell

Yn ystod y digwyddiad ar y cyd rhwng Monumental Welsh Women a Chyngor Caerdydd, bydd yr Athro Olivette Otele yn traddodi’r ddarlith am hanner dydd ddydd Iau 27 Hydref, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, gyda’r teitl 'Celebrating the Infinite Power of Education’.

Mae'r Athro Olivette Otele yn hanesydd ac awdur wedi'i leoli yng Nghasnewydd ac mae'n Athro Nodedig mewn Cymynroddion a Chaethwasiaeth Cof yn SOAS, Prifysgol Llundain. Mae hi’n Gymrawd ac yn gyn Is-lywydd y Gymdeithas Hanes Frenhinol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac wedi bod yn feirniad gwobr yr International Man Booker Prize.

Gerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd

Black and Welsh

Yn ddiweddarach yr un diwrnod, bydd y Senedd yn cynnal dangosiad o’r ffilm ddogfen Black and Welsh, sy’n archwilio hanes a dyfodol hunaniaeth Ddu yn y Gymru fodern. 

Ar ôl y dangosiad am 18.00, bydd Liana Stewart, y gwneuthurwr ffilmiau o Butetown, Caerdydd, yn trafod ei bywyd a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r ffilm ddogfen.

Mae’r ffilm yn dangos actorion, digrifwyr, ffigurau busnes ac arwyr cymunedol mewn ciplun o fywyd yng Nghymru. Mae’r ffilm ddogfen 30 munud o hyd yn dathlu balchder pobl o fod yn Gymreig, ochr yn ochr â phrofiadau o hiliaeth a’r sefyllfaoedd anghyfforddus ac anodd y mae pobl yn parhau i’w hwynebu, wedi’u cyfleu yn eu geiriau eu hunain.

Drwy gydol mis Hydref, bydd y ffilm hon yn cael ei dangos yn y Senedd i roi cyfle i ymwelwyr oedi a myfyrio ar y straeon a ddangosir yn ystod eu hymweliad â’r adeilad. Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan ie ie Productions, ac fe enillodd wobr Bafta Cymru yn 2021 yng nghategori’r Cyfarwyddwr Gorau: Ffeithiol.

Mae'r sesiwn gyda Liana Stewart a Darlith Cerflun Betty Campbell yn agored i'r cyhoedd a gellir archebu tocynnau ar wefan y Senedd.

Liana Stuart, cyfarwyddwr y ffilm ddogfen Black and Welsh

Dywedodd Liana Stewart, “Dwi wedi gwirioni bod y ffilm ddogfen dwi fwyaf balch ohoni, Black and Welsh, yn cael ei dangos yn y Senedd, yng nghanol Caerdydd. Daeth fy nghyndeidiau drwy’r dociau hyn a ches i fy magu yma felly mae gen i gysylltiad dwfn â’r ardal.  

“Rwy’n gobeithio fy mod yn gwneud cymuned leol Butetown yn falch ac rwyf wedi fy nghyffroi’n lân y bydd y ffilm yn cael ei chyflwyno i’r llu o ymwelwyr sy’n dod i Fae Caerdydd, gan roi cyfle iddynt glywed profiadau pobl Ddu a Chymreig.”

Dywedodd yr Athro Olivette Otele, a fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Gyntaf Cerflun Betty Campbell, “Mae Betty Campbell wedi chwarae rhan allweddol yn fy nhaith fel gweithredwr ysgolheigaidd. Mae’n anrhydedd aruthrol bod y cyntaf i draddodi Darlith Cofeb Betty Campbell.”

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, “Drwy fod yn angerddol ac yn benderfynol, mae’r ddwy fenyw wedi chwyddo lleisiau pobl Dduon Cymru. Mae egni Betty Campbell yn parhau i ysbrydoli ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yr Athro Otele yn siarad. 

“Fel gwneuthurwr ffilmiau a rhaglenni dogfen blaenllaw o Butetown, mae sesiwn Liana Stewart yn sicr o fod mor ddiddorol ac addysgiadol â’i ffilm ddogfen Black and Welsh. Rwy’n falch o groesawu Liana i’r Senedd.”