Mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran y celfyddydau, chwaraeon a hamdden yng Nghymru? – mynnwch lais!

Cyhoeddwyd 13/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran y celfyddydau, chwaraeon a hamdden yng Nghymru? – mynnwch lais!

Ydych chi’n credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael pwerau i’w ganiatáu i osod dyletswydd ar gynghorau lleol i wella, hyrwyddo a chynyddu mynediad at y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon ymhlith pobl Cymru?

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 y Cynulliad wrthi’n craffu ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill).

Mae’r Pwyllgor am glywed gan bawb sydd â diddordeb yn y maes hwn yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn cyfrannu at y broses graffu.

Gosodwyd y Gorchymyn arfaethedig gan Lywodraeth Cymru a byddai’n caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod dyletswydd, drwy Fesur, ar awdurdodau lleol o ran y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon.

Yn ei nodyn esboniadol ar y Gorchymyn arfaethedig, dywed y Llywodraeth: Amcan Llywodraeth y Cynulliad yw cael mwy o bobl i gyfranogi yn holl weithgareddau a gwasanaethau celf, diwylliant, chwaraeon a hamdden.

Ni ddylai incwm isel, cefndir na bro fod yn rhwystr i bobl rhag cael cyfle i brofi na chymryd rhan mewn profiadau diwylliannol o’r radd flaenaf.”

Gellir cyflwyno tystiolaeth naill ai’n electronig drwy anfon eich ymatebion i’r cyfeiriad canlynol legislationoffice@wales.gsi.gov.uk neu drwy ysgrifennu at
Owain Roberts, Dirprwy Glerc y Pwyllgor,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Caerdydd CF99 1NA.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 4 Medi 2009.