Mae’n annhebygol y bydd ceisiadau mwyngloddio glo brig yng Nghymru yn llwyddiannus o dan y polisi cyfredol, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau mewn perthynas â dwy ddeiseb, ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru a chyfyngiadau cynllunio o ran cloddio glo brig.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad na fyddai’r llywodraeth yn rhagweld nac yn croesawu dim ceisiadau newydd ar gyfer cloddio glo brig yng Nghymru, ac y byddai newidiadau arfaethedig i bolisi cynllunio yn ei gwneud yn debygol y byddai unrhyw geisiadau yn cael eu gwrthod neu yn cael eu galw i mewn, i Weinidogion wneud penderfyniad arnynt.
Anogir y deisebwyr, cymunedau lleol ac eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn i gyflwyno eu barn ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Bolisi Cynllunio Cymru Drafft: Argraffiad 10 cyn y dyddiad cau ar 18 Mai 2018.
Dywedodd David Rowlands AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: "Roedd yna bryder clir gan y deisebwyr ynghylch amddiffyn cymunedau a’r amgylchedd mewn cysylltiad â cheisiadau mwyngloddio glo brig.
"Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gennym, gan awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn dangos bod gwyro pendant oddi wrth dderbyn unrhyw geisiadau cynllunio yn y dyfodol drwy bolisi cynllunio newydd, y mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal arno ar hyn o bryd."
Darllen yr adroddiad llawn: