National Assembly petition inspires new plan to help people with disabilities live independently in Wales

Cyhoeddwyd 12/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o ddeisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgogi cynllun newydd i helpu pobl ag anableddau i fyw’n annibynnol yng Nghymru

12 Hydref 2011

O ganlyniad i ddeiseb a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, lluniwyd cynllun newydd i gefnogi pobl sydd ag anableddau i fyw’n annibynnol yng Nghymru.

Mae’r ddeiseb, a gyflwynwyd gan Anabledd Cymru, yn galw am strategaeth genedlaethol newydd sy’n cydnabod hawl cyfartal pob unigolyn sydd ag anabledd yng Nghymru i fyw bywyd annibynnol ac i gael yr un dewisiadau sydd ar gael i bawb arall.

Dywedodd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty, wrth y Pwyllgor Deisebau y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu fframwaith gweithredu a fydd yn nodi meysydd lle mae angen gweithredu ac yn llunio cynllun cyflenwi cydlynol.

Bydd y fframwaith yn seiliedig ar y chwe blaenoriaeth a amlinellwyd gan Anabledd Cymru yn ei faniffesto ar fyw’n annibynnol, a gyflwynwyd gyda’r ddeiseb.

Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall pobl a sefydliadau gael effaith gwirioneddol drwy gyflwyno deiseb.

“Rydym yn falch bod y cymorth rydym wedi gallu ei roi i Anabledd Cymru drwy ddod â’r mater pwysig hwn i’r amlwg wedi arwain at gyhoeddiad pwysig gan y Gweinidog.

“Y system ddeisebau sydd gennym yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yw un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol y gall pobl gysylltu â ni i dynnu ein sylw at faterion sydd o bwys iddynt o fewn y meysydd datganoledig, ac mae’n ffordd o sicrhau newid gwirioneddol.

Cyflwynodd Anabledd Cymru y ddeiseb ym mis Ebrill y llynedd, a chasglwyd 719 llofnod.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Deisebau, gan gynnwys yr aelodau, ymchwiliadau a dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor, yma.

Gellir gweld fideo sy'n esbonio sut y gall pobl gyflwyno deiseb, naill ai'n ysgrifenedig neu drwy system e-ddeisebau'r Cynulliad Cenedlaethol, yma.