Neges lwc dda i dîm rygbi Cymru

Cyhoeddwyd 09/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Neges lwc dda i dîm rygbi Cymru

Ar ran Aelodau a staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, wedi anfon neges lwc dda at y garfan cyn gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd ddydd Sul (11 Medi).

Bydd Cymru yn cychwyn yr ymgyrch yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Wellington yn erbyn De Affrica, y pencampwyr presennol.

Dywedodd Mrs Butler, “Ar ran Aelodau a staff y Cynulliad, hoffwn ddymuno lwc dda i bob un yng ngharfan Cymru ar ddechrau’r ymgyrch yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd.”

“Bydd llawer ohonom yn codi’n gynnar fore Sul i gefnogi’r tîm wrth iddo wynebu her y Springboks.

“Y neges, felly, yw y byddwn yn croesi’n bysedd dros gychwyn buddugoliaethus, ac ymgyrch lwyddiannus, y mae pob aelod o garfan Cymru wedi gweithio mor galed tuag atynt.”