Neges lwc dda i dimau rygbi a phêl-droed Cymru ar ddechrau penwythnos prysur ar y maes chwaraeon

Cyhoeddwyd 07/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Neges lwc dda i dimau rygbi a phêl-droed Cymru ar ddechrau penwythnos prysur ar y maes chwaraeon

7 Hydref 2011

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi neges lwc dda i dimau rygbi a phêl-droed Cymru ar ran Aelodau a staff y Cynulliad, ar ddechrau penwythnos prysur ar y maes chwaraeon.

Bydd tîm rygbi Cymru yn wynebu Iwerddon fore yfory yng Nghwpan Rygbi’r Byd – y gêm fwyaf i’r tîm ei chwarae mewn 30 mlynedd, yn ôl rhai.

A bydd tîm pêl-droed Cymru, o dan Gary Speed, yn gobeithio parhau â’r hwyliau gwell diweddar drwy ennill yn erbyn y Swistir yn Stadiwm Liberty, Abertawe, heno.

Dywedodd Mrs Butler: “Hoffwn, ar ran holl staff ac Aelodau’r Cynulliad, ddymuno lwc dda i bawb yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yfory.”

“Mae eu perfformiadau yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd hyd yn hyn wedi codi calon y genedl ac mae pawb yn gobeithio y gallant fynd ymhellach yn y gystadleuaeth.

“Mae ein peldroedwyr hefyd wedi cael cydnabyddiaeth am eu perfformiadau da yn eu gemau diweddar a gobeithio y gallant barhau â’r hwyliau hyn yn erbyn y Swistir.”