Newidiadau i fusnes y Cynulliad ag amseroedd agor yr ystâd o ganlyniad i’r rhybudd tywydd coch newydd

Cyhoeddwyd 01/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2018

Mae’r pwyllgorau canlynol wedi cael eu canslo heddiw: 

  • Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau 
  • Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon 
  • Y Pwyllgor Cyllid. 

Bydd staff Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gydag Aelodau'r Cynulliad a'r tystion i ail-drefnu'r sesiynau lle bo hynny'n bosibl.


Mae amseroedd agor yr ystâd wedi newid:

  • Bydd adeilad y Pierhead ar gau o 1130 heddiw. 
  • Bydd y Senedd yn cau am hanner dydd heddiw. 
  •  Bydd Tŷ Hywel yn gweithredu ar lefel gwasanaeth is o hanner dydd heddiw. 

Golyga hyn y bydd pob digwyddiad a noddir gan Aelod a oedd i’w gynnal o 1200 heddiw yn cael ei ganslo. Mae’r gig Dydd Gwyl Dewi a oedd i’w gynnal heno hefyd wedi'i ganslo. 


Bydd yr holl adeiladau ar ystâd Caerdydd ar gau yfory (2 Mawrth).  


Lle bo hynny'n bosibl, bydd staff y Comisiwn yn gweithio gartref a bydd modd cysylltu â nhw.