Rydym newydd symud ein gwefan i system wahanol ac mae rhai'n cael trafferthion. Os ydych chi'n cael trafferth â'r wefan, anfonwch neges e-bost at gwybodaeth@cymru.gov.uk neu ffoniwch 0845 010 5500.
Newidiadau i'r wefan
Eleni, bydd dau newid i wefan y Cynulliad.
I ddechrau, byddwn yn symud i system newydd i'w gwneud yn haws i bobl chwilio drwy gynnwys y Cynulliad. Yn ail, bydd ein cyfeiriad yn newid o www.CynulliadCymru.org i www.Cynulliad.Cymru.
Gan edrych ymhellach i'r dyfodol, rydym hefyd yn ystyried ffyrdd o roi gwybod i bobl am yr hyn sy'n digwydd yn y Cynulliad (yn y pwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn, a gwybodaeth fwy cyffredinol drwy danysgrifiadau e-bost). Os hoffech fod yn rhan o'r broses hon, rhowch eich cyfeiriad e-bost yma. Fel arall, gallwch ysgrifennu at y Cynulliad drwy ddefnyddio'r cyfeiriad ar y dudalen hon.
Gwella'r cyfleuster chwilio
O ddechrau mis Medi, bydd cyfleuster chwilio gwefan y Cynulliad ychydig yn wahanol. Rydym yn cyflwyno nodweddion newydd i helpu defnyddwyr y wefan i ddod o hyd i'r wybodaeth y maent yn chwilio amdani yn gyflymach ac yn haws.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau yn fuan i egluro'r cyfleuster chwilio newydd a pha rannau o'r wefan yr effeithir arnynt, ac i ddangos ichi sut i'w ddefnyddio.
Newid ein cyfeiriad ar y we
Eleni, bydd Cymru'n cael ei henwau parth ei hun, sef .Cymru a .Wales.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi arwain y ffordd yn y datblygiad hwn, gan gytuno i fod yn un o'r cyntaf i ddefnyddio'r enwau parth newydd.
Byddwn yn newid ein cyfeiriad ar y we i www.Cynulliad.Cymru a www.Assembly.Wales.
Bydd ein cyfeiriadau e-bost yn newid hefyd, i Rosemary.Butler@Cynulliad.Cymru / yn hytrach na Rosemary.Butler@Cymru.gov.uk. Bydd cyfnod o bontio graddol, felly cewch ddigon o amser i ddiweddaru'ch llyfrau cyfeiriadau.