Mae’n rhaid i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, y corff corfforaethol sy'n darparu cymorth i Aelodau'r Cynulliad, fod yn fwy tryloyw â'i gyllideb yn ôl pwyllgor y Cynulliad.
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn archwilio defnydd y Comisiwn o arian dros ben o gyllid a neilltuwyd i dalu am gostau Aelodau’r Cynulliad, yn yr hyn a elwir yn Benderfyniad y Bwrdd Taliadau.
Mae'r Comisiwn wedi defnyddio arian dros ben yn y gorffennol i ariannu prosiectau mawr. Ond mae'r Pwyllgor wedi beirniadu'r dull hwn o beidio â bod yn dryloyw, ac mae'n credu y dylid cynnwys cyllid ar gyfer prosiectau blaenoriaeth o fewn ei gyllideb cyfalaf a gymeradwywyd gan y Cynulliad, yn hytrach na dibynnu ar gronfa arian amrywiol.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Comisiwn yn archwilio manteision a risgiau newid prosesau o gwmpas Penderfyniad y Bwrdd Taliadau yn llawn, gan ganolbwyntio ar fod mor dryloyw â phosib ac edrych ar fodelau a ddefnyddir gan seneddau eraill.
"Rydym o'r farn y dylid nodi a chyllido prosiectau craidd ar wahân," meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
"Trwy ddefnyddio'r tanwariant ar gyfer prosiectau o'r fath, mae'r Comisiwn yn dibynnu ar adnodd anrhagweladwy er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau a'i uchelgais.
"Nid yw'r hyblygrwydd a roddir i'r Comisiwn ar gael i'r cyrff eraill a ariennir yn uniongyrchol yng Nghymru.
"Mae'n ofynnol i'r cyrff hynny nodi gwaith prosiect yn ystod y broses o gynllunio cyllidebau, ac yna bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu arno, gan ddarparu tryloywder i'r cyhoedd. Ni ddylid eithrio'r Comisiwn rhag gweithredu fel hyn."
Darllen yr adroddiad llawn:
Defnydd Comisiwn y Cynulliad o’r tanwariant sy’n deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau (PDF, 729 KB)