Ni ddylai absenoldebau athrawon gael effaith andwyol ar addysg plant - yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol
12 Mai 2014
Ni ddylai addysg plant ddioddef yn ystod cyfnodau o absenoldeb athrawon yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei fod wedi synnu at y diffyg gwerthusiad a wneir pan fo athrawon cyflenwi yn gweithio yn ystod cyfnodau o absenoldeb, gan ei bod yn ei gwneud yn anodd penderfynu pa effaith y mae hynny'n ei gael ar safonau addysg.
Gan groesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod angen i welliannau gael eu gwneud, mae'r Pwyllgor wedi galw am gasglu gwybodaeth fanylach.
Mae'r Pwyllgor hefyd wedi galw am ragor o gefnogaeth i athrawon cyflenwi, gan gynnwys datblygiad proffesiynol, er mwyn sicrhau bod plant yn cael safon gyson o addysg sydd o ansawdd uchel, hyd yn oed os nad yw eu hathro arferol yno.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "nid oes unrhyw athro yn cerdded i mewn i ystafell ddosbarth yn bwriadu rhoi safon wael o addysg, ond yn aml mae'n rhaid i athro cyflenwi sy'n gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb, addasu ar fyr rybudd i amgylchiadau a dysgwyr gwahanol, tra'n ceisio parhau gyda'r gwaith yr oedd yr athro arferol yn ei ddysgu.
"Cred y Pwyllgor ei bod yn hanfodol na ddylai addysg plant ddioddef yn ystod y cyfnodau hyn.
"Mae'n syndod felly na chaiff data ar absenoldeb ac athrawon cyflenwi ei gasglu'n rheolaidd er mwyn rhoi darlun manwl o'r effaith ar safonau addysg. Nodwn gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru y mae'n rhaid iddi wneud mwy yn y maes hwn.
"Rydym hefyd am weld cefnogaeth well ar gyfer llywodraethwyr ysgol, penaethiaid ac athrawon cyflenwi sy'n gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb, gan gynnwys gwell mynediad at ddatblygiad proffesiynol priodol, i gynnal y safonau y dylai plant ysgol eu disgwyl."
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
Bod Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn dosbarthu data perthnasol a dibynadwy ar absenoldeb athrawon o'r ystafell ddosbarth fel y gellir monitro achosion o, â'r rhesymau dros, absenoldeb mewn ffordd fwy cadarn.
Bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod Datblygiad Proffesiynol Parhaus Ysgolion ac Awdurdodau Lleol ar gael i athrawon cyflenwi, ac yn sicrhau ei bod yn datblygu dull effeithiol ar gyfer cynnig y cyfleoedd hyn i athrawon cyflenwi; a
Bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r hyfforddiant (e.e. drwy'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth/mentora blwyddyn gyntaf) a ddarperir i benaethiaid er mwyn sicrhau bod mwy o bwyslais ar reoli absenoldebau o'r ystafell ddosbarth. Dylai'r ffocws hwn ar reoli absenoldebau hefyd gael ei gynnwys yn y Datblygiad Proffesiynol Parhaus a ddarperir i benaethiaid.
Adroddiad: Cyflenwi Ar Gyfer Absenoldeb Athrawon
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i absenoldebau athrawon ar gael yma.