Ni ddylai gorsafoedd ynni fonopoleiddio’r farchnad bren ar draul busnesau eraill, meddai un o Bwyllgorau’r Cynulliad
2 Awst 2010
Gallai cymorthdaliadau gan y Llywodraeth er lles gorsafoedd ynni mawr sy’n llosgi pren i gynhyrchu trydan olygu bod busnesau bach yn cael eu disodli o’r farchnad bren, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Er bod y cymhellion newydd a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn annog y defnydd o fiomas adnewyddadwy, clywodd ymchwiliad gan y grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad dystiolaeth y gallai’r monopoli sydd gan orsafoedd ynni mawr dros ddeunyddiau arwain at fusnesau eraill sy’n defnyddio pren yn cael eu disodli o’r farchnad.
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw busnesau llai yn colli allan ar gyflenwadau o bren sy’n cael eu cyfeirio’n arbennig i gael eu llosgi – arfer sy’n darparu arbedion carbon is na dulliau eraill o ddefnyddio’r pren.
Mae’r adroddiad hefyd yn cwestiynu gallu Cymru i ymateb i’r cynnydd yn y galw am fiomas, ac yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cael rhagor o ddeunyddiau drwy fanteisio ar y coedwigoedd nad ydynt yn cael eu rheoli yn bresennol.
Yn ogystal, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyfyngu ar anfon pren gwastraff i safleoedd tirlenwi drwy bwerau amgylcheddol sydd newydd gael eu trosglwyddo o San Steffan.
Dywedodd Kirsty Williams AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Cytunodd y Pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn oherwydd ei fod yn cydnabod bod gan fio-ynni’r potensial i gymryd lle tanwyddau ffosil, lleihau allyriadau nwyon ty gwydr a chyfrannu at amcanion polisi eraill fel datblygu gwledig.
“Fodd bynnag, dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor bod datblygiad llwyddiannus y diwydiant yn cael ei rwystro, oherwydd argaeledd deunyddiau crai, materion ariannol ac amgylcheddol a chyfleoedd marchnata.
“Os yw biomas yn cael ei reoli’n gywir, gall arwain at leihad sylweddol mewn allyriadau carbon net, ac rydym yn awyddus bod Cymru’n ffynhonnell o gymaint o ddeunyddiau â phosibl er mwyn i ni allu chwarae rôl allweddol yn y diwydiant hwn, sy’n dod yn fwyfwy pwysig.”