Nid yw buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Cartrefi Clyd yn agos at yr hyn sydd ei angen i drechu tlodi tanwydd, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dystiolaeth yn ystod ei ymchwiliad diweddar y byddai’n cymryd dros ganrif, ar y gyfradd bresennol, i wella effeithlonrwydd ynni’r holl aelwydydd tlawd o ran tanwydd yng Nghymru.
Er bod costau ynni wedi codi i lefelau nas gwelwyd o’r blaen, mae gwariant mewn termau real ar y Rhaglen Cartrefi Clyd, sy’n cynnwys cynlluniau i osod deunyddiau insiwleiddio a dulliau gwresogi carbon isel fel paneli solar, wedi aros yn gyffredinol wastad ers 2021.
Yn ei adroddiad, 'Cynyddu’r gwres', mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau bod unrhyw arian ychwanegol a ddaw ar gael yn mynd tuag at fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Wrth i gostau ynni o danwydd ffosil barhau i godi, mae’r angen i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru yn dod yn fwy o frys.
“Yn rhwystredig iawn, nid yw hyn wedi’i adlewyrchu yn ymdrechion Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn cael effaith aruthrol ar y rhai sy’n gallu ei fforddio leiaf. Yn lle hynny rydym wedi gweld patrwm o oedi, ac o fethu terfynau amser.
“Mae'n anodd anghytuno â barn yr arbenigwyr sy’n dweud: nid yw lefel y buddsoddiad yn y Rhaglen Cartrefi Clyd yn agos at yr hyn sydd ei angen i gyfateb i faint yr her o roi terfyn ar dlodi tanwydd.”
Roedd tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn tynnu sylw at ddisgwyliad Llywodraeth Cymru y byddai tua 11,500 o gartrefi yn cael eu haddasu dros gyfnod o 7 mlynedd. Ar y cyflymder hwn ni fyddai gwaith i gyrraedd yr holl aelwydydd tlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn cael ei gwblhau tan 2160.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo unrhyw gyllid ychwanegol, gan gynnwys unrhyw danwariant, neu arian canlyniadol fformiwla Barnett sy’n deillio o gyllid Llywodraeth y DU tuag at drechu tlodi tanwydd yn Lloegr, gael ei fuddsoddi yn y Rhaglen Cartrefi Clyd.