Nid “gwahardd” ffonau clyfar yn gyfan gwbl ym mhob ysgol fyddai’r ateb i bopeth, yn ôl Pwyllgor Deisebau’r Senedd, sydd, yn hytrach, am weld mwy o gymorth i ysgolion osod eu cyfyngiadau eu hunain.
Er bod digonedd o dystiolaeth o’r niwed y gall ffonau clyfar ei wneud, clywodd y Pwyllgor hefyd sut y gallant gefnogi lles a diogelwch pobl ifanc. Drwy siarad ag athrawon, disgyblion a rhieni, bu’r Pwyllgor yn ystyried y gwahanol reolau a ddefnyddir gan ysgolion ar hyn o bryd, a’r berthynas gymhleth rhwng pobl ifanc a’u ffonau clyfar.
Yn ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw (12 Mawrth 2025), mae Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn annog Llywodraeth Cymru i osod canllawiau clir, ynghyd â fframwaith cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau, a fydd yn rhoi’r hyder i athrawon i osod y rheolau sy’n gweithio orau i’w pobl ifanc. Mae’r Pwyllgor hefyd am i Lywodraeth Cymru barhau i ddilyn y dystiolaeth a ddaw o astudiaethau o effaith gosod cyfyngiadau ar ffonau clyfar yn ystod y diwrnod ysgol.
Dywedodd Carolyn Thomas AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, “Mae’r corff cynyddol o dystiolaeth gref fod y niwed y gall ffonau clyfar ei wneud i blant yn drech na’r manteision yn destun pryder. Er hynny, at ei gilydd, nid ydym o’r farn bod hynny’n cyfiawnhau gosod ‘gwaharddiad’ unffurf ar ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru.
“Po fwyaf o dystiolaeth a glywsom, mwyaf eglur y daeth hi nad yw’r berthynas rhwng pobol ifanc a’u ffonau yn syml. Mae rhai plant y mae eu ffonau’n tynnu eu sylw, neu sy’n profi seiberfwlio, dibyniaeth neu orbryder drwy eu ffonau. I eraill, mae’n rhoi ymdeimlad o ryddhad, wrth iddynt allu rheoli cyflyrau iechyd neu deimlo’n fwy hyderus wrth gerdded i’r ysgol, gan wybod y gallant gysylltu â rhiant bob amser.
“O bryd i’w gilydd, mae deiseb yn cyrraedd sy’n dal ein sylw, ac weithiau mae pethau sy’n ymddangos yn syml iawn yn fwy cymhleth o lawer o grafu’r wyneb. Rydym am ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater amserol iawn hwn, sydd wedi rhoi cyfle i ni i drafod a chyflwyno’r argymhellion i Lywodraeth Cymru. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth yn ddefnyddiol i bob ysgol wrth ystyried a phennu polisïau.”
Bydd y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor, ynghyd â’i argymhellion, yn awr yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ymateb iddynt. Bydd dadl yn cael ei threfnu yn y Senedd maes o law.
Mwy am y stori hon
Darllenwch yr adroddiad: Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol