Nid oes digon o ffocws ar fanteision ehangach y trefniadau caffael bwyd gwerth £74m ar gyfer ysbytai ac ysgolion Cymru, yn ôl Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 04/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Nid oes digon yn cael ei wneud i wireddu manteision ehangach caffael bwyd o safon ar gyfer ysbytai ac ysgolion Cymru, yn ôl Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.

Canfu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fod mwy na £74m y flwyddyn yn cael ei wario ar brynu bwyd i'w ddefnyddio yn sector cyhoeddus Cymru.

Ond nid yw effeithiau posibl caffael bwyd o safon ar iechyd a llesiant yn cael eu trafod yn ddigonol a daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylid ystyried bod yr arian yn fuddsoddiad ym mhobl Cymru.

Canfu'r Pwyllgor hefyd nad yw cyflenwyr yn ystyried bod trefniadau caffael y sector cyhoeddus yn ddibynadwy nac yn nodedig. Mewn dogfennau tendr, roedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi goramcangyfrif gwerth contractau bwyd. Mewn gwirionedd, roedd eu gwerth dipyn yn llai na'r hyn a ragamcanwyd.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai hyn olygu bod gan gwmnïau farn negyddol am drefniadau caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae aelodau'r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod y sector yn cael ei ystyried yn ddibynadwy, yn syml ac yn ddymunol i fusnesau o bob maint.

Clywyd tystiolaeth hefyd ynghylch y camsyniadau a'r gor-ddweud am reolau caffael yr UE a anogodd gyflenwyr lleol i beidio â chyflwyno cynigion am gontractau. Canfu'r Pwyllgor enghreifftiau o arferion yng ngwledydd eraill yr UE nad oedd yn atal caffael bwyd sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol, yn iach ac yn gynaliadwy.

Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai Cymru fod yn barod i wynebu'r heriau ac achub ar y cyfleoedd sy'n codi o Brexit. Mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn dechrau paratoi nawr i sicrhau bod y rheoliadau, y safonau a'r strwythurau sydd gennym yn iawn i Gymru.

Dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: “Rydym yn pryderu am y canfyddiad o drefniadau caffael bwyd cyhoeddus ymhlith cyflenwyr yng Nghymru.”

“Mae rhai cwmnïau'n ystyried bod y sector yn annibynadwy, ac nad yw contractau yn aml yn werth yr hyn y mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ei amcangyfrif, sy'n golygu bod angen gwneud mwy i adfer ffydd a rhoi sicrwydd bod tendrau'n ddigon apelgar i fusnesau wneud cynnig amdanynt.

“Rydym hefyd yn credu bod manteision ehangach i'w trafod o ran iechyd a llesiant ymhlith cleifion a phlant ysgol yn ysbytai ac ysgolion Cymru.

“Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth fwyd gyffredinol sy'n ystyried bod bwyd yn fuddsoddiad ym mywydau pobl yng Nghymru. Fel man cychwyn, rhaid i ni fanteisio i’r eithaf ar yr arian, sef £74m y flwyddyn, sy’n cael ei wario gan y sector cyhoeddus fel y gallwn wella canlyniadau iechyd, llesiant a chymdeithasol.”

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

 

 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru Caffael Cyhoeddus mewn cysylltiad â Bwyd (PDF, 704 KB)