Nid yw isafswm pris am alcohol yn ateb syml, meddai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 06/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Nid yw cyfraith arfaethedig a fyddai'n gosod isafswm pris fesul uned o alcohol a werthir yng Nghymru yn ateb syml a fydd yn mynd i'r afael â phob niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, a gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol, meddai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.

Wrth gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd Cyhoeddus (Isafbris am Alcohol) (Cymru), mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn pryderu y gallai prisiau alcohol uwch gael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, a gallai wthio rhai yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol.

Dywedodd defnyddwyr canolfan adfer alcohol wrth y Pwyllgor na fyddai prisiau uwch o reidrwydd yn eu rhwystro, neu byddent yn dod o hyd i ddewisiadau eraill, gan gynnwys troi at gyffuriau fel Spice.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Bil wedi'i anelu at y rhai sy'n cael eu hystyried yn yfwyr peryglus a niweidiol, sy'n yfed mwy na'r hyn a gaiff ei argymell gan ganllawiau, yn hytrach nag alcoholigion.

Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r syniad o isafswm pris uned am alcohol ond mae am ei weld fel rhan o becyn ehangach o fesurau a gwasanaethau cymorth i leihau dibyniaeth ar alcohol.

"Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r egwyddor a amlinellir yn y Bil ac yn credu y bydd isafbris uned yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at wella iechyd carfan sylweddol o boblogaeth Cymru," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Mae gennym rai pryderon ynghylch canlyniadau anfwriadol, gan gynnwys y posibilrwydd o yrru yfwyr trwm tuag at ymddygiadau eraill sy'n effeithio'n negyddol ar eu hiechyd, gan gynnwys dargyfeirio arian oddi wrth fwyd er mwyn prynu alcohol neu amnewid alcohol am sylweddau anghyfreithlon, heb eu rheoleiddio.

"Nid ydym wedi ein hargyhoeddi chwaith gan safbwynt Llywodraeth Cymru na fydd y Bil hwn yn effeithio ar yfwyr trwm ac alcoholigion.

"Rydym yn ystyried y Bil hwn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd eu hangen i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru."

Mae'r Pwyllgor wedi cydnabod y bydd isafswm prisiau uned yn gosod gofynion ychwanegol ar fanwerthwyr ond ni chafodd ei berswadio y byddai cost anorfodadwy a baich gweinyddol yn cael ei roi ar fanwerthwyr sy'n gweithredu gwahanol strwythurau pris mewn gwahanol rannau o'r DU.

Mae Aelodau'r Cynulliad hefyd yn credu bod gwerthuso'r ddeddfwriaeth yn hollbwysig, ac maent wedi awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar brofiad cynnar isafswm prisiau uned yn yr Alban, a fydd yn dechrau ym mis Mai, fel ffordd o lywio gweithredu'r canllawiau yng Nghymru.

Bydd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) bellach yn cael ei drafod mewn cyfarfod o'r Cynulliad llawn ar 13 Mawrth cyn cynnal pleidlais i benderfynu a all fynd ymlaen i gam nesaf proses ddeddfu'r Cynulliad.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol)Cymru: (PDF, 720 KB)