Nifer gynyddol yn peryglu eu hiechyd drwy yfed yn ormodol, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 05/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2015

Mae angen i bobl Cymru fod yn fwy ymwybodol o'r niwed sy'n gysylltiedig ag yfed gormod o alcohol, clywodd un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi bod yn ystyried effeithiau camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, ac i ba raddau y mae'r problemau hyn yn cael eu datrys, a chlywodd yr aelodau bod nifer yr achosion o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn cynyddu.

Gan adeiladu ar ei waith yn gynharach eleni mewn perthynas â sylweddau seicoweithredol newydd (sylweddau sy'n gallu dynwared effeithiau cyffuriau anghyfreithlon) ystyriodd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol a sylweddau, a sefydlwyd dau grŵp cyfeirio sy'n cynnwys defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau ar gyfer yr ymchwiliad.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Gall camddefnyddio alcohol a sylweddau ddinistrio bywydau unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau.  

"Mae'r adroddiad hwn yn gyfle amlwg i ddylanwadu ar Gynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-2018 a dyna y mae ein 21 o argymhellion yn ceisio'i wneud.

"Mae ein hargymhellion yn cynnwys galw am fwy o arweiniad strategol gan Lywodraeth Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a sylweddau, ac i'r Cynllun Cyflawni nesaf ymdrin yn benodol ag anghenion grwpiau penodol gan gynnwys pobl hŷn, pobl ddigartref a phobl sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar.

"Rydym hefyd yn argymell bod camau'n cael eu cymryd i wella hyfforddiant i feddygon teulu er mwyn cael gwared â rhai o'r ffactorau y clywsom amdanynt yn ystod yr ymchwiliad sy'n rhwystro pobl rhag manteisio ar wasanaethau.

"Wrth edrych ymlaen at y Bil Cymru arfaethedig, rydym yn gofyn am sicrwydd y bydd y Bil yn rhoi set briodol o bwerau i'r Cynulliad i alluogi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblem camddefnyddio alcohol a sylweddau mewn ffordd fwy effeithiol a chyfannol."

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau (PDF, 1.49MB)