Nodi 20 Mlynedd o Ddatganoli

Cyhoeddwyd 21/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

​Heddiw (dydd Iau, 21 Mawrth), cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu yn 1999.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau dros fisoedd yr haf, gan orffen gyda gŵyl ddemocratiaeth ddiwedd mis Medi, lle bydd ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau, chwaraeon, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth yn dod ynghyd ym Mae Caerdydd. Bydd y rhaglen lawn yn dathlu ac yn trafod llwyddiannau'r ugain mlynedd diwethaf, ond hefyd yn canolbwyntio ar ddyfodol Cymru ac yn ymgysylltu â phobl, grwpiau a sefydliadau ledled y wlad.

Bydd y rhaglen 20 mlynedd yn cychwyn ar 6 Mai, union ugain mlynedd ers i bobl Cymru fynd i bleidleisio am y tro cyntaf erioed yn etholiadau'r Cynulliad. Bydd y Senedd yn agor ei drysau i'r cyhoedd gael dod i ymchwilio i hanes, pwerau ac uchelgeisiau'r Cynulliad drwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus a fydd wedi'u hanelu at bob oedran. Bydd arddangosfa newydd yn cael ei dadorchuddio yn olrhain hanes datganoli yng Nghymru. 

Ar y diwrnod canlynol, sef 7 Mai, bydd y Llywydd a'r Prif Weinidog yn annerch y Cynulliad yn ffurfiol gerbron aelodau a etholwyd i'r Cynulliad ers 1999. Yn ddiweddarach y noson honno, bydd Aelodau Cynulliad blaenorol a chyfredol yn dod ynghyd â llu o wahoddedigion yn cynrychioli sefydliadau cenedlaethol i ddathlu'r achlysur.

Ym mis Mehefin, bydd aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, sydd newydd ffurfio, yn eistedd gyda'r Cynulliad llawn ar gyfer sesiwn eithriadol ar y cyd. Ym mis Gorffennaf, bydd Cynulliad Dinasyddion, a fydd yn cynnwys aelodau cynrychiadol o'r cyhoedd, yn dod ynghyd yn y canolbarth i drafod y prif heriau y bydd Cymru yn eu hwynebu yn yr ugain mlynedd nesaf.

Dros fisoedd yr haf, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal digwyddiadau ynghylch ystod o faterion datganoledig gyda phartneriaid mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol.  Bydd arddangosfa ffotograffig wedi'i churadu ar y cyd gan Ffotogallery a'r Cynulliad Cenedlaethol yn teithio o amgylch Gymru o fis Medi ymlaen. Bydd yn cynnwys gwaith gan chwe ffotograffydd sy'n edrych ar obeithion a dyheadau Cymru yn y dyfodol.

Bydd y dathliadau 20 mlynedd o ddatganoli yn dod i ben gyda'r ŵyl ddemocratiaeth gyntaf erioed i'w chynnal ym Mae Caerdydd ym mis Medi. Dros bedwar diwrnod, bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead yn cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau, gyda sgyrsiau, arddangosfeydd a dadleuon yn ystod y dydd, ynghyd â gigs cerddoriaeth a chomedi gyda'r nos. Mae llawer o'r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol fel Gŵyl y Gelli, BAFTA Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Gŵyl Gomedi Machynlleth, Chwaraeon Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a phrifysgolion Cymru.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, "Mae'r dathliad hwn yn gyfle unigryw i ystyried faint mae Cymru wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf a'r effaith y mae datganoli wedi'i chael ar ein bywydau."

"Wrth wneud hynny, mae gennym gyfle hefyd i edrych tua'r dyfodol. Drwy'r rhaglen hon o ddigwyddiadau, ein nod yw dechrau deialog newydd gyda phobl ledled y wlad am eu huchelgeisiau ar gyfer Cymru a sut y gall y Cynulliad, cartref democratiaeth Cymru, helpu i gyflawni hynny."

Bydd gwybodaeth bellach am bob un o'r prosiectau, y partneriaid a sut y gall aelodau'r cyhoedd gymryd rhan yn cael ei chyhoeddi maes o law. Dilynwch ein sianelau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.


https://datganoli20.cymru/