Nodyn i'r dyddiadur: Cyfarfod cyntaf Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 13/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Nodyn i'r dyddiadur: Cyfarfod cyntaf Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

13 Tachwedd 2012

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Mercher, 14 Tachwedd am 09.15 yn Ystafell Bwyllgora 4, Ty Hywel.

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 2 Mai 2012 gyda’r cylch gwaith i graffu ar y Prif Weinidog ar unrhyw fater sy’n berthnasol i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y bydd y Pwyllgor yn cyfarfod unwaith bob tymor y Cynulliad, gyda’r bwriad o gynnal o leiaf un cyfarfod y flwyddyn yn y gogledd, y gorllewin neu’r canolbarth.

David Melding AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cadeirio'r Pwyllgor, a bydd y sesiwn graffu gyntaf gyda Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, yn canolbwyntio ar ddau faes. Y rhain yw:

rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys:

  • rôl y Prif Weinidog wrth lunio, cynllunio a chydlynu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru;

  • y capasiti a'r arbenigedd o fewn y gwasanaeth sifil a'r gymdeithas sifig er mwyn darparu'r rhaglen;

  • hyblygrwydd i ymateb i newid; a

dull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo menter, gan gynnwys:

  • gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer hyrwyddo menter o fewn economi Cymru; a

  • sut y caiff menter ei brif ffrydio a'i gydlynu drwy Lywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ddatblygu meysydd polisi trawsbynciol megis Ardaloedd Menter a mentrau cymdeithasol.