O’r Fferm i’r Fforc – Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberhonddu i glywed barn ar hybu bwyd.

Cyhoeddwyd 29/01/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

O’r Fferm i’r Fforc – Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberhonddu i glywed barn ar hybu bwyd.             

Bydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ymweld â chalon y Gymru wledig i roi cig ar asgwrn ei ymchwiliad i gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru                           

Bydd yr aelodau’n clywed tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yng Nghymru ac Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyfarfod agored yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar Chwefror 5.

“Ffermio a bwyd yw enaid ein cymunedau gwledig trwy Gymru,’’ meddai cadeirydd y pwyllgor, Alun Davies AC.

“Dyna pam ein bod yn ymweld ag Aberhonddu, i wrando ar safbwyntiau’r werin bobl sy’n gweithio’n ddyddiol ar gynhyrchu bwyd yng Nghymru.

“Mae’n bwysicach nag erioed, ar adeg o wasgfa economaidd fel yr un a brofwn ar hyn o bryd, bod y Cynulliad Cenedlaethol yn asesu llwyddiant cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu a marchnata cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a’r nwyddau maent yn eu cynhyrchu.”

Bydd y sesiwn yn dechrau am 2pm a bydd yn agored i’r cyhoedd.