Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dros Dro yn cael ei enwebu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 20/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dros Dro yn cael ei enwebu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Tachwedd 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i enwebu’r Athro Margaret Griffiths i’r Frenhines, i’w phenodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dros Dro i Gymru.

Os caiff ei chymeradwyo gan Ei Mawrhydi, bydd yr Athro Griffiths yn cymryd yr awenau dros dro gan Peter Tyndall, sydd â’i dymor yn dod i ben 30 Tachwedd.

Mae’r Athro Griffiths, cyn Bennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg ac Athro Emeritws y Gyfraith, wedi creu gyrfa sy’n arbenigo mewn cyfraith defnyddwyr.

Dywed y bydd sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu "darparu’n deg" a’u bod yn "ymatebol i anghenion y gymuned" ar frig ei hagenda tra’i bod yn y swydd.

"Rwy’n falch ac yn freintiedig o fod wedi cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dros Dro i Gymru," meddai’r Athro Griffiths.

"Wrth ymgymryd â’r swydd hon, hoffwn roi teyrnged i fy rhagflaenydd, Peter Tyndall sydd wedi bod yn Ombwdsmon rhagorol ac sydd wedi parhau i ddatblygu’r rôl a’i dylanwad yn ystod amseroedd heriol iawn.

"Mae gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yn hynod o bwysig i bawb ohonom sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, yn enwedig y rheini sydd o gymunedau difreintiedig neu sydd mewn angen cymorth a chefnogaeth arbennig.

"Fel Ombwdsmon, rwy’n bwriadu parhau i ddarparu gwasanaeth annibynnol, proffesiynol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n amddiffyn hawliau’r unigolyn ac y gall pawb droi ato.

"Yn yr un modd, byddaf yn gweithio i sicrhau bod yr Ombwdsmon yn gwneud ei ran i hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu’n deg ac sy’n ymatebol i anghenion y gymuned."

Fel Ombwdsmon Dros Dro gall yr Athro Griffiths ymchwilio i gwynion a wnaed gan y cyhoedd sy’n credu eu bod wedi dioddef camweinyddu neu fethiant mewn gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y GIG, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan gynnwys cymdeithasau tai ac amrywiaeth o gyrff cyhoeddus eraill sy’n cael eu rheoli neu eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r Ombwdsmon hefyd yn cynnal ymchwiliadau i honiadau bod aelod o awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod.

Mae’r Cynulliad yn gwneud trefniadau ar gyfer proses benodi lawn a ffurfiol, i ddod o hyd i olynydd parhaol i Peter Tyndall, sydd wedi dal y swydd ers mis Ebrill 2008.

Yn y cyfamser, croesawodd gwleidyddion o bob plaid benodiad yr Athro Griffiths fel Ombwdsmon dros dro.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Peter Tyndall am ei waith rhagorol,” meddai’r Llywydd, Rosemary Butler AC.

"Mae wedi sicrhau bod hawliau dinasyddion cyffredin yn cael eu hamddiffyn ac mae wedi arwain swyddfa’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus mewn ffordd ragorol.  Roedd edmygedd cyson o’i allu i ddarparu gwasanaethau o safon uchel bob amser ac i dderbyn nifer gynyddol o gwynion heb gynnydd sylweddol yn ei gostau.

“Rwyf hefyd yn croesawu’r Athro Griffiths i’r swydd. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad cyfreithiol ac ymrwymiad cryf i wella gwasanaethau cyhoeddus."

Dywedodd Peter Tyndall y bu’n "fraint ac yn anrhydedd fawr" i wasanaethu Cymru fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

"Yn ystod fy nhymor, rwyf wedi ceisio sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at swyddfa annibynnol sy’n cynnig ystyriaeth deg, wrthrychol a thrylwyr o’u cwynion ynghylch gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli, nad ydynt wedi gallu eu datrys gyda’r darparwyr," meddai.

"Rwyf wedi gweithio i foderneiddio’r swyddfa ac i wella mynediad a chafodd hyn ei adlewyrchu yn y cynnydd sylweddol iawn yn nifer y cwynion a gafwyd ac a ystyriwyd.

“Un o’r breintiau mawr a fwynheir gan yr Ombwdsmon yw’r gallu i ddefnyddio’r hyn a ddysgir o gwynion i sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn y ffordd yr ymdrinnir â chwynion.  Bu gwelliant sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae lle i fwy.  Rwyf yn arbennig o bryderus am y cynnydd a fu mewn cwynion ynghylch iechyd ac rwy’n sicr y bydd fy olynydd yn dymuno parhau i weithio i wella’r ffordd yr ymdrinnir â’r rhain gan y GIG yng Nghymru fel nad yw camgymeriadau’n cael eu hailadrodd a bod profiadau gwael rhai yn cael eu defnyddio i sicrhau nad yw eraill yn dioddef methiannau tebyg.  Mae’r rhain yn amseroedd anodd i’r gwasanaethau cyhoeddus ac rwy’n gwybod mai dim ond rhan fach o’r darlun y mae’r digwyddiadau sy’n achosi cwynion yn eu cynrychioli a bod staff ymroddedig ledled Cymru yn parhau i geisio cynnig gwasanaethau ardderchog yn wyneb heriau mawr.

“Rwy’n falch o fod wedi mwynhau perthynas waith agos â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ei staff, ei bwyllgorau a’i Lywydd sydd wedi helpu i sicrhau annibyniaeth y swyddfa a bod gwersi’n cael eu dysgu gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus.  Rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth dda gan dîm o staff cymwys ac ymroddedig sydd wedi bod yn glod i’r swyddfa.

"Hoffwn gymryd y cyfle i ddymuno pob llwyddiant i’r Ombwdsmon Dros Dro, Yr Athro Griffiths ac i fy olynydd parhaol yn y swydd foddhaus a heriol hon."