Pa mor dda yw gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 13/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pa mor dda yw gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru?

13 Tachwedd 2009

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ei ymchwiliad i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gwasanaeth wedi cael ei feirniadu mewn perthynas ag amseroedd aros gwael ac asesiadau a darparu cadeiriau olwyn.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae nifer o Aelodau’r Cynulliad wedi cael cwynion gan etholwyr am wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru ac mae hyn yn peri cryn bryder i aelodau’r Pwyllgor, yn enwedig os yw achos yn ymwneud â phlentyn.

"Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â phrofiad o wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru ac rydym am eu hannog i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddweud wrthym beth yw’r problemau a sut y gellir mynd i’r afael â hwy.

"Mae’n hanfodol bod y gwasanaethau hyn yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac mae’r Pwyllgor yn benderfynol o’u gweld yn gwella.”

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i archwilio’r materion a ganlyn fel rhan o’i ymchwiliad:

  • Amseroedd aros am asesiad a darparu cadeiriau olwyn;

  • Y trefniadau ar gyfer comisiynu a darparu cadeiriau olwyn drwy’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar a threfniadau lleol ar gyfer defnydd tymor byr a’r posibiliadau o ran datblygu trefniadau newydd o fewn strwythurau newydd y gwasanaeth iechyd gwladol;

  • Effeithiolrwydd gwasanaethau cadeiriau olwyn o ran diwallu anghenion unigolion, megis anghenion plant a phobl ifanc, oedolion sydd yn gweithio,, cyn-filwyr rhyfel a’r rhai sy’n dioddef cyflyrau sy’n gwaethygu, fel sglerosis ymledol;

  • Y trefniadau ar gyfer adolygu anghenion unigolion ac ar gyfer diweddaru, cynnal a chadw ac atgyweirio cadeiriau olwyn;

  • Ystyriaethau sy’n ymwneud â chydraddoldeb wrth ddarparu cadeiriau olwyn, gan gynnwys, er enghraifft, amrywiaethau daearyddol; darpariaeth ar draws y gwahanol oedrannau; materion sy’n effeithio ar grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a siaradwyr Cymraeg; a hygyrchedd gwasanaethau cadeiriau olwyn o ran lleoliad, amseroedd agor a gwybodaeth;

  • Y defnydd o ddangosyddion perfformiad ac ansawdd mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn ac effeithiolrwydd y dangosyddion hynny;

  • Ariannu gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

Nid oes rhaid i gyflwyniadau roi sylw i’r holl feysydd uchod a bydd y Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan unigolion a sefydliadau, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau lle bydd cyfle i roi tystiolaeth lafar.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth anfon e-bost at glerc y Pwyllgor yn: health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk, neu ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Nodiadau i olygyddion.

Ceir gwybodaeth bellach am y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yma, gan gynnwys gwybodaeth am aelodau’r Pwyllgor ac adroddiadau blaenorol a gwybodaeth bellach am gyflwyno tystiolaeth.