Pa mor dda yw'r gwasanaethau orthodontig yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 11/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pa mor dda yw'r gwasanaethau orthodontig yng Nghymru?

11 Chwefror 2014

Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau orthodontig yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dechrau ymgynghoriad, ac mae'n gofyn i bobl o bob cwr o'r wlad rannu eu profiadau eu hunain.

Yn ystod yr ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn edrych ar:

  • Mynediad cleifion i driniaethau orthodontig priodol, gan gwmpasu gwasanaethau orthodontig a ddarperir yn yr ysbyty neu fel arall;

  • A oes amrywiad rhanbarthol yn y mynediad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru;

  • Pa mor dda y mae'r amrywiol chwaraewyr yn y maes hwn yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu orthodonteg yn lleol (i gynnwys y modd y mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu rheoli a’u cynllunio, y modd y rheolir atgyfeiriadau at wasanaethau, y modd y rheolir perfformiad, a’r modd y trefni’r y gweithlu sydd ei angen i gyflenwi'r gwasanaethau hyn)

  • A yw'r arian a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer y gwasanaethau orthodontig yn gynaliadwy o gofio'r wasgfa ar wariant y mae'r GIG yn ei hwynebu, ac a yw'r gofal othodontig ar ddarperir ar hyn o bryd yn ddigonol ac yn fforddiadwy, ac yn rhoi gwerth am arian;

  • A yw gwasanaethau orthodontig yn cael digon o flaenoriaeth yng nghynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y geg, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer monitro safonau'r ddarpariaeth a chanlyniadau'r gofal yn y GIG ac yn y sector annibynnol; ac,

  • Effaith y contract deintyddol ar y gofal orthodontig a ddarperir.

"Bydd yr ymchwiliad hwn yn ystyried pob agwedd ar wasanaethau orthodontig, gan gynnwys sut y maent yn cael eu hariannu, sut y maent yn cael eu darparu ac a oes safonau amrywiol mewn gwahanol rannau o'r wlad," meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Er mwyn sicrhau bod gennym ddarlun cywir o safonau'r gwasanaethau ar draws Cymru, rydym yn chwilio am bobl i ddweud wrthym am eu profiadau.

"Gall rhannu barn fel hyn fod yn hynod werthfawr o ran llunio ein casgliadau a'n hargymhellion."

Gall unrhyw un sydd am gyfrannu wneud hynny drwy anfon e-bost i PwyllgorIGC@cymru.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

Dyddiad cau yr ymgynghoriad cyhoeddus yw dydd Gwener, 4 Ebrill 2014