Papur Aelod Cynulliad ar strategaeth swyddi a thwf yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gymeradwyo mewn sesiwn cyfarfod llawn ym Mrwsel

Cyhoeddwyd 04/12/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Papur Aelod Cynulliad ar strategaeth swyddi a thwf yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gymeradwyo mewn sesiwn cyfarfod llawn ym Mrwsel

(4/12/2009)

Ar Ragfyr 3 ydd, ym Mrwsel, cafodd papur a ddrafftiwyd gan Christine Chapman AC yn nodi'r hyn y mae’n credu y dylai fod yn brif amcanion strategaeth economaidd yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol ei gymeradwyo yn ffurfiol gan holl aelodau Pwyllgor y Rhanbarthau.

Daw’r penderfyniad wrth i’r cyfnod 10 mlynedd ar gyfer gweithredu Strategaeth Lisbon – cynllun gweithredu blaenllaw ar gyfer twf economaidd yn yr UE – ddirwyn i ben ac wrth i’r strategaeth olynol gael ei thrafod.

Bydd safbwynt Mrs Chapman wrth galon neges y Pwyllgor i Gyngor Ewropeaidd Gwanwyn 2010, lle bydd Penaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau (gan gynnwys Prif Weinidog y Deyrnas Unedig) yn cwrdd i drafod dyfodol y strategaeth.

Ym mis Chwefror, dewiswyd Christine Chapman AC i fod yn rapporteur Pwyllgor y Rhanbarthau ar y pwnc allweddol hwn, i sicrhau bod cynrychiolwyr llywodraeth leol a rhanbarthol yn cael dweud eu dweud cyn i bolisi olynol gael ei benderfynu.

Roedd ei phapur yn anfon neges glir i’r Comisiwn Ewropeaidd newydd, gan gynnig strategaeth Ewropeaidd gynaliadwy, yn seiliedig ar y cynsail bod adnoddau’r byd yn gyfyngedig ac nad yw twf yn dod am ddim.

Mae’r papur hefyd yn amlinellu’r lefelau cynyddol o anghydraddoldeb a thlodi yn Ewrop, y diffyg cydnabyddiaeth ar gyfer y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol a rhanbarthol wedi’i chwarae yn y broses o roi’r strategaeth ar waith, a’r angen am bolisi cymdeithasol wedi’i hadnewyddu a’i bywiogi o ganlyniad i hynny.

Dywedodd Mrs Chapman: “Mae bron i ddeng mlynedd wedi mynd heibio ers y cytunwyd Strategaeth Lisbon am y tro cyntaf yn 2000, ac mae’n rhannu’r pen-blwydd hwnnw â Chynulliad Cenedlaethol Cymru - sef y sefydliad yr wyf yn ei gynrychioli ym Mhwyllgor y Rhanbarthau.

“Mae’r argyfwng ariannol ac economaidd wedi cael effaith fawr ar fywydau pobl ac rwy’n credu ei bod yn glir bod pobl yn cydnabod yr angen am newid dros y degawd nesaf a thu hwnt. Rhaid i ni symud tuag at ffordd mwy cynaliadwy o fyw a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n parhau i fodoli ar draws Ewrop.

“Mae angen olynydd dewr, blaengar a radicalaidd ar Strategaeth Lisbon sy’n cydnabod y ffaith nad yr opsiwn gorau i Gymru nag Ewrop fyddai parhau i weithredu yn yr un ffordd.”